Trosi ysgubor enfawr yn Sir Drefaldwyn yn llwyddiant ysgubol diolch i gymorth busnes gan Cyswllt Ffermio

“Roedd eu gwytnwch yn amlwg iawn a’u dewrder yn talu ar ei ganfed!” Dyma eiriau’r ffermwr o Ganolbarth Cymru, Keri Davies, mentor ac arbenigwr arallgyfeirio adnabyddus Cyswllt Ffermio, a gefnogodd deulu sy’n ffermio yn Sir Drefaldwyn ‘bob cam o’r ffordd’ pan gychwynnon nhw ar eu menter dwristiaeth uchelgeisiol gyntaf.

 

Doedd y ffermwyr defaid o Aberriw, Terry a Lynda Evans, erioed wedi amau y byddai’n ymgymeriad mawr pan yn gynnar yn 2019, dechreuon nhw feddwl am y tro cyntaf a allen nhw drawsnewid eu hysgubor brics coch yn llety gwyliau. Mae’n 7,000 troedfedd sgwâr a rhan ohoni’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif. Roedd y cwpl yn gobeithio dod o hyd i brosiect a fydd ‘pan fydd yr amser yn iawn’ yn eu galluogi i gamu’n ôl o ymrwymiad dyddiol rheoli stoc.

 

Roedd ffawd ar eu hochr nhw pan oedd y cwpl ar eu hymweliad wythnosol â marchnad y Trallwng lle gwnaethon nhw gwrdd ag Owain Pugh, a oedd bryd hynny, yn swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol. Fe wnaethon nhw drafod eu cynllun am fod eisiau dod o hyd i ffrwd newydd o incwm a syniad annelwig y dylen nhw ‘wneud rhywbeth gyda’r ysgubor’.

 

Fe’u perswadiwyd gan Owain i drefnu clinig arallgyfeirio un-i-un Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan yr ymgynghorydd busnes gwledig Jeremy Bowen Rees.

 

“Ymwelodd Jeremy â’r fferm gan gydnabod potensial yr ysgubor a’n lleoliad ysblennydd yn syth, sydd ond dwy awr o ganolbarth Lloegr,” meddai Terry. Awgrymodd Mr Bowen Rees droi’r ysgubor yn un uned llety mawr, yn hytrach na’i rhannu’n unedau hunangynhwysol llai, rhywbeth nad oedden nhw wedi ei ystyried o’r blaen.

 

“Mi wnaethon ni wneud mwy o ymchwil ac ar ôl darganfod bod llawer llai o opsiynau ar gyfer y math yma o ddarpariaeth ar raddfa fawr yn y canolbarth, sylweddoli y gallai’r dull yma roi mantais gystadleuol werthfawr,” meddai Terry.

 

Yna, argymhellodd Owain y dylai’r cwpl wneud cais am gefnogaeth wedi’i ariannu’n llawn gan raglen fentora Cyswllt Ffermio, cynnig y gwnaethant ei dderbyn, gan ddewis mentor arallgyfeirio, Keri Davies.

 

“Sefydlodd Keri ei fusnes gosod llety gwyliau hynod lwyddiannus ei hun yn ei fferm yn Nyffryn Crai rai blynyddoedd yn ôl felly roedd ei arweiniad nid yn unig o ran ‘beth i’w wneud’ ond ‘beth i beidio â gwneud’ gyda phrofiad personol â nifer o brosiectau twristiaeth ar raddfa fawr debyg, yn amhrisiadwy.”

 

Gwahoddodd Keri a’i wraig y cwpl i ymweld â nhw ac ar ôl cyfarfod pedair awr ‘dwys’ a thaith o amgylch eu hysgubor pum seren a droswyd i fythynnod gwyliau, heuwyd hadau uchelgais.

 

Yn fuan wedi hynny, fe wnaeth y cwpl gais am gymorth busnes drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Gyda’r cymhelliant sylweddol o gyllid o 80%, roedden nhw’n gallu comisiynu Mr. Bowen Rees i roi cyngor busnes strategol iddyn nhw a’u harwain drwy’r prosesau.

 

“Fe wnaeth y cynllunio gymryd mwy o amser nag oedden ni’n gobeithio ond yn fwy arwyddocaol, cafodd Covid effaith ddramatig ar holl fanciau’r stryd fawr oedd, yn pryderu am effaith y pandemig ar nifer yr ymwelwyr, yn sydyn yn gyndyn i ariannu prosiectau twristiaeth newydd.”

 

Ond nid dyna’r unig broblem frawychus. Fe wnaeth y banciau i gyd ddatgan eu bod yn amharod i ariannu teulu ffermio oedd heb brofiad blaenorol o redeg menter dwristiaeth.

“Er ein bod yn gyfoethog o ran asedau, gyda 100 erw o dir o’r ansawdd gorau rydyn ni’n berchen arno a 100 erw arall yn cael ei rentu, gyda 200 o ddefaid pur a digon o isadeiledd, roedd y ffaith nad oeddem erioed wedi lletya gwesteion sy’n talu yn cael ei ystyried yn faen tramgwydd, yn sicr yn un nad oeddem wedi’i ragweld.”

 

Wedi digalonni ond yn benderfynol, maen nhw’n rhoi clod i Mr Bowen Rees am newid y sefyllfa sydd ohoni.

“Rhoddodd Jeremy gynllun busnes cynhwysfawr a oedd yn darparu ffeithiau a ffigyrau manwl ar y costau yn ogystal â rhagolygon ariannol hirdymor, a’r ddogfen hon a arweiniodd atom yn y pen draw yn cyrchu’r lefel angenrheidiol o gyllid i gael cwblhau trosi’r ysgubor,” meddai Terry.

 

Mae unig ferch y cwpl, Victoria (26), sy’n gweithio ym maes cyllid corfforaethol yn Llundain, wedi parhau i fod yn rhan o’r digwyddiad, gan fynychu cyfarfodydd allweddol drwy Zoom, cymryd rhan ym mhob penderfyniad dylunio a chymryd gofal o farchnata, gwefan a chyfrif Instagram ‘Old Cider Press Barn’.

 

Roedd mynychu clinig ynni Cyswllt Ffermio wedi ysbrydoli’r teulu i gyllidebu ar gyfer paneli solar i leihau costau ynni, ac ymunodd Lynda a Victoria hefyd â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio ar-lein yn benodol ar gyfer gweithredwyr twristiaeth.

 

“Roedd yn gysur mawr i mam a minnau siarad â ffermwyr eraill sy’n wynebu’r un heriau ac fe gawson ni gyngor amhrisiadwy ganddyn nhw yn ogystal â’r siaradwyr arbenigol a ddaeth i mewn i fynd i’r afael â’r grŵp ar faterion fel brandio a gosod,” meddai Victoria.

 

Dair blynedd yn ddiweddarach, gyda Jeremy Bowen Rees a Keri Davies yn rhoi arweiniad iddynt yn y cyfamser. Mae’r teulu i gyd yn cytuno bod y wybodaeth, yr arbenigedd a’r gefnogaeth foesol a ddarperir gan y ddau arbenigwr ‘wedi ein cael ni drwy rai diwrnodau eithaf caled a nosweithiau digwsg!’ Y gwanwyn hwn croesawodd ‘The Old Cider Press Barn’, sydd bellach wedi’i adfer i safon eithriadol o uchel, ei grŵp cyntaf o 24 o ymwelwyr. Gydag adolygiadau canmoliaethus a rhai’n archebu eto ar gyfer 2024 a thu hwnt trwy asiantaeth gosod lleol, mae’r dyfodol yn edrych yn sicr.

 

Mae cynaliadwyedd bob amser wedi bod yn sbardun allweddol i’r prosiect, ac mae’r ysgubor llawn cymeriad yn dal i feddu ar lawer o’i nodweddion pensaernïol cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys trawstiau gwreiddiol, rhai yn dal i fod yn eu lle, tra bod eraill wedi cael eu hail-bwrpasu fel tri bwrdd bwyta mawr ar ffurf bwrdd hir a dodrefn eraill.

 

Gydag ystafelloedd gwely en-suite moethus, mannau byw a bwyta eang, llosgwyr coed, bar coctel, ystafell gemau, tybiau poeth a thân gwyllt, mae’r ysgubor eisoes wedi cynnal nifer o ddathliadau teuluol gyda grwpiau o feicwyr a cherddwyr – mae’n darparu ar gyfer hyd at 28 o westeion – sydd eisoes wedi archebu lle.

 

Mae’n amlwg fod gan y teulu Evans yr hyn sydd ei angen i wneud i brosiect mor uchelgeisiol ddwyn ffrwyth. Mae Terry yn ofalus ond yn berson ‘syniadau’ a ddefnyddir i redeg busnes fferm llwyddiannus, mae gan Lynda sgiliau sefydliadol aruthrol a’r gallu i fod yn gynnil ar geiniog, tra bod Victoria wedi camu i’r adwy yn hapus i rôl marchnata ar-lein.

 

Crynhodd Elin Haf Williams, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio Lleol, gan ddweud

“Dyma deulu a wnaeth eu hymchwil, gofynnodd yr holl gwestiynau cywir a diolch i gyngor a chefnogaeth a gafodd eu cyrchu drwy Cyswllt Ffermio, maent wedi troi eu breuddwyd yn stori lwyddiant ysgubol.

 

“Gobeithio y bydd ffermwyr eraill wedi eu hysbrydoli gan eu taith a darganfod sut gall y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd eu cefnogi nhw hefyd.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page