TREFNWYD bod gwefan popeth dan yr unto newydd ar gael i gefnogi miloedd lawer o deuluoedd yn Abertawe sydd am arbed arian yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae’r wefan sef www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw a luniwyd gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys gwybodaeth am daliadau y gall fod gan bobl leol hawl iddynt, yn ogystal ag awgrymiadau arbed ynni i breswylwyr sydd mewn dyled.
Mae’r wefan hefyd yn cynnwys swyddi gwag ac arweiniad i bobl sy’n chwilio am waith, ynghyd â gwybodaeth am ble y gall pobl gael help i ddod o hyd i fwyd ac eitemau hanfodol eraill.
Ers iddi fynd yn fyw ar ddechrau mis Medi, edrychwyd ar dudalennau’r wefan bron 35,000 o weithiau.
Mae adrannau eraill o’r wefan yn canolbwyntio ar help i rieni sy’n talu am gostau ysgol. Mae hyn yn cynnwys grantiau gwisg ysgol i deuluoedd ar incwm isel a gwybodaeth am gymhwyster ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol y cyngor allan mewn cymunedau ar draws y ddinas i roi gwybod i gynifer o bobl â phosib am y gefnogaeth hon.
Gellir defnyddio cyfrifiaduron a chael WiFi am ddim yn holl lyfrgelloedd y ddinas.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
“Gwyddwn y bydd llawer o bobl yn Abertawe yn pryderu am sut i gael deupen llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw, felly hoffem sicrhau ein holl breswylwyr ein bod yma i’w cefnogi – yn union fel yr oeddem yn ystod y pandemig.
“Mae’r holl wybodaeth y gall fod ei hangen ar bobl ar gael mewn un lle ar y wefan newydd, gan ei gwneud yn haws i breswylwyr gael gwybod am y gefnogaeth sydd wrth law i’w helpu o bosib i gael gafael ar daliadau neu arbed arian.
“Mae hyn yn dilyn y miliynau o bunnoedd a dalwyd gennym eisoes i gyfrifon banc miloedd o bobl yn y misoedd diweddar fel rhan o’r cynlluniau cymorth costau byw a thanwydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan y cyngor.”
Mae’r wefan costau byw newydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim neu gost isel sydd ar ddod yn Abertawe, yn ogystal â manylion cynlluniau a ariennir gan y llywodraeth i helpu gyda gofal plant.
Mae dolenni i sefydliadau eraill sy’n darparu cyngor a chefnogaeth hefyd ar gael, yn ogystal â gwybodaeth am siop ailddefnyddio Trysorau’r Tip y cyngor yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet sy’n cynnig nwyddau trydanol, celfi, dillad, nwyddau cartref ac eitemau eraill am gost isel.
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.