Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Côr roc a phop yn codi £3,000 i elusen y GIG

Mae’r Phil Harmonics, côr roc a phop o Lanelli, wedi codi swm arbennig o £3,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.

 

Cynhaliodd y côr ei Gala flynyddol ar Orffennaf 1af yng Ngwesty’r Diplomat yn Llanelli i godi’r arian.

 

Dywedodd Sarah Mair, Sylfaenydd y Côr: “Sefydlais y côr naw mlynedd yn ôl yn benodol i godi arian at elusennau a chael ychydig o hwyl.

 

“Thema’r Gala eleni oedd ‘Rhythm y Nos’ a buom yn arddangos caneuon o’r 50au hyd heddiw. Roedd yn llawer o hwyl gyda llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa.

 

“Roedd y paratoi yn waith caled, gyda llawer o ymarferion ac ymarferion gwisg, ond mae’r cyfan yn werth chweil pan welwch chi gymaint o hwyl mae pawb yn ei gael wrth godi arian at achosion da.

 

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau ac unigolion lleol a gefnogodd ein noson elusennol drwy gyfrannu gwobrau raffl, ac i Westy’r Diplomat am ein cynnal.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page