GYDAG wythnos yn unig ar ôl i ymateb i’r ymgynghoriad ar wasanaethau strôc, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro ac ardaloedd cyfagos i rannu eu barn.
Bydd yr ymgynghoriad wyth wythnos, a lansiwyd ar 28 Mai 2026, yn cau ddydd Sul 26 Gorffennaf 2026.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwahodd cleifion, gofalwyr, staff, cymunedau lleol a rhanddeiliaid nad ydynt wedi cymryd rhan eto, i lenwi’r holiadur neu gysylltu â ni i rannu eu barn.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio adborth ar opsiwn a ffefrir ar gyfer dyfodol gwasanaethau strôc ledled Hywel Dda, a ddatblygwyd yn dilyn ymgysylltiad helaeth yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad yn 2025 fel rhan o’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol.
Ar hyn o bryd, darperir gwasanaethau strôc ym mhob un o’r pedwar prif ysbyty yn Hywel Dda – Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson ac nid oes staffio strôc arbenigol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae’r opsiwn a ffefrir y mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio barn arno yn cynnwys:
- Uned strôc acíwt ac adsefydlu 24 awr yn Ysbyty Glangwili
- Uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Bronglais
- Gwasanaethau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg
Ers lansio’r ail gam hwn o’r ymgynghoriad ar 28 Mai 2026, mae mwy na 2000 o bobl wedi cymryd rhan drwy fynychu digwyddiadau a chyfarfodydd, wyneb yn wyneb ac ar-lein, neu drwy lenwi’r holiadur ymgynghori.
Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu barn gyda ni hyd yn hyn. Rydym wedi clywed ystod eang o safbwyntiau ac mae pob cyfraniad yn ein helpu i ddeall yn well beth sydd fwyaf pwysig i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.
“Gydag wythnos ar ôl cyn diwedd yr ymgynghoriad, rwy’n annog unrhyw un sydd heb gymryd rhan eto i wneud hynny nawr. Dyma’ch cyfle i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau strôc yn ein hardal.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor ddinistriol y gall effeithiau strôc fod i gleifion a’u teuluoedd. Ein nod yw darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy sy’n rhoi’r cyfle gorau posib i bobl wella trwy fynediad amserol at ofal strôc arbenigol.
“Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud. Bydd yr adborth a gawn drwy’r ymgynghoriad hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio’r penderfyniad terfynol yn ddiweddarach eleni.”
Bydd yr holl adborth a ddaw i law yn ystod y cam hwn o’r ymgynghoriad, ynghyd â safbwyntiau a gasglwyd yn ystod 2025 a’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf, yn cael eu hystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol.
I gymryd rhan cyn 26 Gorffennaf:
- Llenwch yr holiadur ar-lein: https://biphdd.gig.cymru/holiadur-stroc
- Ebostiwch: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
- Ffoniwch: 0300 303 8322 (opsiwn 5, pris galwad leol)
Mae gwybodaeth ar gael mewn fformatau hygyrch ac ieithoedd eraill ar wefan y Bwrdd Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc
Rhannwch eich barn am ddyfodol gwasanaethau strôc ar draws Hywel Dda.

