Llwyddiant Gwobr Ysgol Ryngwladol y British Council i Ysgol Gymraeg Brynsierfel

MAE Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn Llanelli wedi derbyn Gwobr Ysgol
Ryngwladol y British Council (lefel Ganolradd) fel cydnabyddiaeth o’i
gwaith i ddod â’r byd i’r ystafell ddosbarth.

Mae’r Wobr Ysgol Ryngwladol yn dathlu llwyddiannau ysgolion sy’n gwneud gwaith eithriadol mewn addysg rhyngwladol . Mae meithrin dimensiwn yn y cwricwlwm wrth wraidd gwaith y British Council gydag
ysgolion, fel bod pobl ifanc yn ennill y sgiliau a’r ddealltwriaeth
ddiwylliannol sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd a gwaith yn ein byd
ni heddiw.

Mae gwaith rhyngwladol Ysgol Brynsierfel yn cynnwys cymryd rhan ym
mhrosiect Walk the Global Walk, ymgymryd â’r her ‘Stepping Out to
Lesotho’, rhannu gweithgareddau gydag ysgol sy’n bartner, sef Loti yn
Lesotho, De Affrica, dysgu am fywyd yn ysgol Loti a chymharu hynny â
bywyd yma yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y Nod Byd-eang o ‘Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf’ drwy ddylunio a chreu Gardd Heddwch o’r enw ‘Hafan Heddychlon’ a phlannu coed yng Nghymru a Lesotho.

Dywedodd y Pennaeth, Jayne Davies:

“Hoffwn ddiolch i Zoe Jermin-Jones (pennaeth cynorthwyol), Sophie Harding (cydlynydd eco-ysgol), y Gobal Goalkeepers a gwirfoddolwyr am eu hymroddiad a’u penderfyniad i wireddu’r prosiect hwn. Fel ysgol rydym i gyd yn falch iawn o gael derbyn y Wobr Ysgol Ryngwladol nodedig hon, sy’n cydnabod ein hangerdd dros fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar lefel leol a rhyngwladol.”

Meddai John Rolfe MBE, Rheolwr Allgymorth Ysgolion y British Council:

“Mae gwaith rhyngwladol Ysgol Gymraeg Brynsierfel wedi ennill
cydnabyddiaeth haeddiannol i’r ysgol drwy dystysgrif Ganolradd Gwobr
Ysgol Ryngwladol y British Council.

“Rydym yn falch ac yn hynod hapus i gael gweithio gyda’r ysgol wych hon.
Diolch yn fawr i bawb am eu holl ymrwymiad i ddatblygu gwaith
rhyngwladol a rhannu arferion ac adnoddau rhagorol yn yr ystafell
ddosbarth. Mae hyn yn cyfoethogi addysg i’w disgyblion, ac mae eu
prosiectau cydweithredol rhagorol gydag ysgolion partner dramor yn dod
â’r byd i’w hystafelloedd dosbarth. Mae gwaith rhyngwladol yn gymorth
allweddol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fod yn
ddinasyddion y dyfodol sy’n ymwybodol o’r byd.

“Gall cynnwys ethos rhyngwladol ar draws ysgol arwain at achrediad
gyda’n Gwobr Ysgol Ryngwladol Lawn a dylai ysgolion sydd am ymuno â’r
rhwydwaith byd-eang cefnogol ac ymgysylltiol hwn gysylltu â ni yn y
British Council”.

Mae’r wobr bellach ar gael yn fyd-eang mewn gwledydd fel India, Gwlad
Groeg, yr Aifft, Lebanon, Nigeria, a Phacistan. Mae tua 6,000 o Wobrau
Ysgolion Rhyngwladol wedi’u cyflwyno i ysgolion llwyddiannus yn y DU ers i’r cynllun ddechrau ym 1999.

Mae’r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn annog ac yn cefnogi ysgolion i
ddatblygu:

 Ethos rhyngwladol wedi’i wreiddio drwy’r ysgol gyfan;

Agwedd ysgol gyfan at waith rhyngwladol;

 Gwaith cydweithredol yn seiliedig ar y cwricwlwm gyda nifer p ysgolion partner; 

 Gweithgarwch rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn; a

 Cynnwys y gymuned ehangach

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:

“Mae’n fwy pwysig nag erioed fod ein pobl
ifanc yn deall y materion mawr sy’n siapio ein byd, a bod y wobr hon yn
cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn Ysgol Brynsierfel i roi’r
wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar ddisgyblion i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas ac i hyrwyddo ac annog parch
at amrywiaeth.

“Mae’r wobr hefyd yn cydnabod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan
yr ysgol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Llongyfarchiadau
mawr ar y wobr hon.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page