Mae’r Urdd yn galw ar actorion ifanc i fod yn rhan o hanes drwy gofrestru ac ymuno yng nghynhyrchiad cyntaf Theatr Ieuenctid yr Urdd ers ail-lansio’r cwmni dylanwadol yn yr hydref.
Dan ofalaeth greadigol Angharad Lee fel cyfarwyddwr a Rhys Taylor yn Gyfarwyddwr Cerdd, sioe lwyfan gyntaf Y Cwmni bydd cynhyrchiad newydd o ‘Deffro’r Gwanwyn’ gan Dafydd James. Yn ogystal â’r cyfle i feithrin eu crefft mewn gweithdai preswyl, bydd cyfle i actorion ifanc ennill profiadau anhygoel drwy berfformio ar lwyfan Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ym mis Medi.
Meddai Branwen Davies, Trefnydd Y Cwmni:
“Mae Deffro’r Gwanwyn yn ddathliad lliwgar ac egnïol o ieuenctid a rebelio. Mae’n ymwneud a themâu sydd dal yn anghyfforddus i’w trafod ar brydiau a hynny mewn modd gonest a miniog.
“Bydd y cynhyrchiad yma yn gyfle arbennig i aelodau newydd Theatr Ieuenctid yr Urdd fod yn rhan o gynhyrchiad proffesiynol adnabyddus wedi ei gyfieithu gan Dafydd James, dramodydd a chyfansoddwr mwyaf cyffrous ac unigryw Cymru. Mae’r Urdd yn ymfalchïo yn ein nod o gynnig cyfleodd arbennig i bobl ifanc Cymru. Oherwydd hyn mae’n hanfodol fod y Mudiad yn rhoi cyfle i aelodau Y Cwmni fod yn rhan o gynhyrchiad proffesiynol adnabyddus gan ddangos ein bod o ddifri ynglŷn â chynnig profiadau safonol a phroffesiynol i’n pobl ifanc.”
Perfformiwyd addasiad Cymraeg Dafydd James o’r sioe gerdd ‘Spring Awakening’ yn gyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010. Wedi ei seilio ar ddrama bwerus a dadleuol Frank Wedekind, ysgrifennwyd y sioe gan Steven Sater a’r gerddoriaeth gan Duncan Sheik ar gyfer lwyfan Broadway yn 2006. Mae’r cynhyrchiad yn archwilio deffroad rhywiol, ieuenctid yn rebelio a hunan ddarganfyddiad. Mae’r cynhyrchiad wedi ei osod yn 1891 ond yn cynnwys cerddoriaeth gyfredol sydd yn creu tensiwn a gwrthdaro difyr. Mae’r cynhyrchiad yn cyfleu neges gryf os ydy ffyrdd o ddehongli rhywioldeb ac unigoliaeth yn cael eu cyfyngu, neu eu barnu a’u rhwystro, yna gall arwain at ganlyniadau trychinebus. Mae’n wahoddiad i fod yn agored a gonest.
Eglurai Branwen bwysigrwydd dewis Deffro’r Gwanwyn fel cynhyrchiad cyntaf Y Cwmni:
“Rydw i o’r farn ei fod yn ddewis eofn ac yn gyfle i griw o bobl ifanc sydd yn byw’r themâu i fynegi eu hunain mewn modd theatrig, bythgofiadwy. Mae’n gyfle i genhedlaeth ifanc sydd wedi dioddef yn ystod cyfnod Covid i fynegi eu rhwystredigaethau ac i wahodd trafodaeth am eu barn ac am eu gweledigaeth nhw o’r byd. Mae’n gyfle i wyntyllu rhwystredigaeth a darostyngiad y blynyddoedd cyfyngedig diwethaf, ond hefyd ystyried gobaith ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau’r Urdd:
“Ers ail-lansio Theatr Ieuenctid yr Urdd yn yr hydref, mae’n braf gweld fod pobl ifanc wedi manteisio ar weithdai gan Y Cwmni, a bod yr awch yn parhau am gyfleodd celfyddydol yn y Gymraeg. Hoffwn ddiolch unwaith eto i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol o £1 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd sydd wedi ein galluogi i wireddu’r freuddwyd o ail-sefydlu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, a chynnig cyfleoedd a phrofiadau llwyfan i bobl ifanc ar draws Cymru.”
Mis Mawrth bydd clyweliadau yn cael eu cynnal ym Mangor, Abertawe ac ar lein i sicrhau bod artistiaid a pherfformwyr ifanc ar hyd Cymru yn cael cyfle i ymuno yn y cynhyrchiad. Bydd hefyd modd recordio clyweliad a’i rannu. Gofynnir i actorion ifanc rhwng 16-25 oed sydd â diddordeb ymuno â’r cynhyrchiad baratoi cân a monolog* dim nwy na 3 munud o hyd ar gyfer y clyweliad. Yn ogystal â phrif gymeriadau a chast, bydd Y Cwmni yn chwilio am fand byw a thîm o bobl ifanc i gynorthwyo cefn llwyfan o fis Ebrill ymlaen, sydd yn cynnwys cyfleoedd cynllunio a rheoli llwyfan.
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb i ymuno â’r Cwmni ewch i urdd.cymru/y-cwmni.
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.