Prosiect peilot ar gyfer pryfed peillio ar waith ledled Sir Gaerfyrddin

MAE prosiect peilot newydd ar waith ledled Sir Gaerfyrddin i annog blodau brodorol i dyfu ac i ddarparu bwyd i bryfed peillio.

Cafodd Cyngor Sir Caerfyrddin gyllid o dan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect peilot i dreialu ffyrdd newydd o reoli ein mannau gwyrdd.

Nid yw’r prosiect yn cynnwys plannu na hau blodau gwyllt ond yn hytrach mae’n golygu newid yn y ffordd yr ydym yn torri gwair i annog banc hadau brodorol o blanhigion blodeuol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau anfrodorol.

Mae’n golygu torri’r gwair yn yr ardaloedd hyn ychydig yn llai aml, ei dorri ychydig yn uwch a chael gwared â’r toriadau gwair.

Defnyddiwyd cyllid Llywodraeth Cymru i brynu dau beiriant ‘torri a chasglu’ i gael gwared â’r toriadau gwair yn hytrach na’u gadael ar y llawr, a fydd dros amser yn annog mwy o blanhigion blodeuol yn y glaswelltir.

Hefyd dylai torri’r gwair ychydig yn llai aml ganiatáu i blanhigion â thymor blodeuo byr gwblhau eu cylch blodeuo llawn a chynyddu’r neithdar sydd ar gael i bryfed.

Mae’r cynllun peilot yn cael ei gynnal mewn 31 ardal ar draws y sir, gan gynnwys 13 safle tai, chwe safle tai gwarchod, pedwar safle o fewn ystadau, ac wyth safle arall sy’n cael eu rheoli gan dîm cynnal a chadw tiroedd y cyngor.

Bydd rhai ardaloedd yn cael eu torri fel arfer lle cânt eu defnyddio’n rheolaidd gan breswylwyr, a bydd yr holl ymylon llwybrau yn cael eu torri’n rheolaidd. Mae arwyddion wedi cael eu gosod i egluro’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud, a bydd swyddogion yn monitro’r ardaloedd hyn er budd bioamrywiaeth.

Mae’r cyngor yn gobeithio gweithio gyda thrigolion lleol i helpu i fonitro’r safleoedd ac mae’n bwriadu cynnwys ysgolion lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu, gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol a helpu pryfed peillio ble bynnag y gallwn. Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir rhwng cael lleoedd i fwynhau a chwarae a chaniatáu i fyd natur ffynnu. Mae gennym lawer i’w ddysgu fel rhan o’r cynllun peilot hwn, a byddwn yn ei adolygu’n rheolaidd, ac yn gwrando ar adborth trigolion. Ond yn ogystal â helpu pryfed peillio ar lefel leol, rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn y pen draw yn darparu mannau gwyrdd o ansawdd gwell lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn dysgu.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page