15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi’u gweini fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio

Mae 15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi cael eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen, a lofnodwyd ddwy flynedd yn ôl. Bydd pob plentyn ysgol gynradd a thros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn diwedd 2024.

Cyhoeddir yr ail adroddiad blynyddol am gynnydd o dan y Cytundeb Cydweithio heddiw.

Drwy gydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyflawni ystod eang o ymrwymiadau yn 2023, gan gynnwys:

Cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd – mae 15 miliwn o brydau bwyd wedi cael eu gweini ac mae 142,000 o ddisgyblion wedi dod yn gymwys hyd yma.
Estyn gofal plant am ddim i ragor o blant dwy flwydd oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
Cyflwyno pecyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol ffyniannus, helpu pobl i fyw’n lleol a mynd i’r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi mewn sawl ardal yng Nghymru.
Lansio cwmni ynni newydd i Gymru – Ynni Cymru – sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, i ddatgloi ein potensial ynni gwyrdd.
Cyflwyno deddfwriaeth, a fydd, os cytunir arni, yn gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy modern ac effeithiol.
Parhau â’r rhaglen Arfor, a fydd yn rhoi hwb economaidd i Wynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn ac yn cryfhau’r Gymraeg yno.
Buddsoddi mwy mewn mesurau i reoli a lliniaru llifogydd i ymateb i berygl cynyddol llifogydd, drwy gronfa gwerth £214m ar gyfer cynlluniau llifogydd.
Cefnogi a chryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru gyda chyllid newydd, a chefnogi cwmnïau yng Nghymru i ddatblygu cynnwys dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
Cyflwyno’r hwb iechyd meddwl cyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc mewn argyfwng sydd angen cymorth brys. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol.
Lansio cynllun Benthyciadau i Ddatblygwyr ar gyfer Diogelwch Adeiladau Cymru, gwerth £20m, i ddarparu benthyciadau di-log i helpu datblygwyr i gyflawni gwaith unioni i ddiogelu adeiladau 11 metr o uchder a mwy yng Nghymru rhag tanau.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi cydweithio’n agos ar ystod eang o ymrwymiadau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ledled Cymru – o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd ac ehangu gofal plant ar gyfer plant dwy flwydd oed i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd.

“Rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hon wrth i ni ddechrau blwyddyn olaf y cytundeb.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Mae cydweithio pan fo gennym dir cyffredin yn enghraifft o wleidyddiaeth aeddfed ac yn dda i Gymru. Mae’r Cytundeb Cydweithio yn nodi ystod o bolisïau penodol yr ydym wedi ymrwymo i gydweithio arnyn nhw ac mae’r ail adroddiad blynyddol hwn yn nodi’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud. Rydyn ni’n parhau i ymrwymo i’r uchelgeisiau cyffredin hyn ar gyfer pobl Cymru.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page