Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

£65m i helpu pobl symud ymlaen o lety dros dro

MAE’R Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi £65m er mwyn helpu pobl i symud ymlaen o lety dros dro i lety y gallant ei alw’n gartref.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) sy’n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i greu capasiti tai ychwanegol sydd wir ei angen ledled Cymru.

Bydd y rhaglen yn dod â mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol dros y 18 mis nesaf. Bydd bron i hanner yn gartrefi hirdymor neu barhaol gyda’r lleill yn cynnig cartrefi o ansawdd da sy’n addas i’w defnyddio gan unigolion a theuluoedd am nifer o flynyddoedd.

Mae’r prosiectau’n cynnwys defnyddio cartrefi Dulliau Adeiladu Modern o safon uchel, adnewyddu ac ad-drefnu adeiladau presennol .

Dywedodd Julie James:

“Bydd y prosiectau hyn yn darparu llety o safon uchel y mae eu hangen yn fawr i helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau tai yn y tymor canolig.

Mae y gwaith hwn yn ategu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol parhaol carbon isel yn ystod tymor y Senedd hon.”

Bydd awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn defnyddio’r cyllid mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

dod ag eiddo sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ac eiddo segur na fyddai fel arall yn cael eu hail-osod yn ôl i ddefnydd fel cartrefi i unigolion a theuluoedd;

ail-fodelu llety presennol;

troi adeiladau’n llety o ansawdd da; a

defnyddio dulliau modern o adeiladu fel math tymor canolig o dai ar rai safleoedd wrth iddynt gael eu datblygu ar gyfer tai parhaol.

Meddai y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Trwy gydol y pandemig fe wnaethon ni weithio’n galed i ddarparu llety i bawb oedd ei angen.

Fe wnaethon ni sicrhau nad oedd unrhyw un yn cysgu ar y stryd neu’n ddigartref yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus.

Mae angen inni adeiladu ar hyn yn awr a pharhau â’r gwaith i daclo ac atal digartrefedd drwy sicrhau bod achosion o hyn yn brin, yn fyr ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.

Rydym wedi llwyddo i helpu miloedd o bobl i gael llety dros dro dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ond mae llawer mwy o bobl yn dal i fynd at ein hawdurdodau lleol i gael help brys.

Ein huchelgais yw i bawb gael cartref diogel, addas, parhaol ond mae ein system dai dan bwysau sylweddol, dyna pam ein bod yn adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol.

Ble mae pobl mewn gwestai neu lety B&B dros dro, yn arbennig, gall fod yn anodd iddyn nhw symud ymlaen gyda’u bywydau. Mae angen mwy o opsiynau llety dros dro o ansawdd uchel – lle i alw’n gartref – er mwyn caniatáu i bobl fwrw ymlaen â’u bywydau, tra ein bod yn eu cefnogi i ddod o hyd i gartref parhaol.

Rydw i’n gwneud hyd at £40m o gyllid cyfalaf ar gael i gefnogi amrywiol fentrau gan ein hawdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i sicrhau bod gan hyd yn oed mwy o bobl le i alw’n gartref.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page