Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Adeilad Llys Dewi Sant yn Abertawe dechrau diflannu

MAE hen adeilad Llys Dewi Sant yn Abertawe yn dechrau diflannu, fesul bricsen, o ganol y ddinas.

Mae’r prif waith i ddymchwel yr adeilad yn digwydd nawr, ar ôl cwblhau’r gwaith i dynnu’r rhannau mewnol. Disgwylir i’r gwaith gael ei orffen erbyn diwedd mis Medi. Buckingham Group Contracting Ltd – y prif gontractwr ar gyfer cynllun Bae Copr – fydd yn ymgymryd â’r gwaith.

Yn y blynyddoedd diweddar, defnyddiwyd yr adeilad, sydd yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant, fel swyddfa safle ar gyfer ardal £135m Bae Copr a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hysbysfyrddau wedi’u codi o gwmpas y safle, a fydd yn cael eu hailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio Urban Splash a Milligan fel rhan o gynigion ehangach ar gyfer safle datblygu Gogledd Abertawe Ganolog yn y tymor hwy.

Unwaith y rhoddir cynigion manwl ar waith ar gyfer yr holl safle datblygu, trefnir bod digon o gyfleoedd ar gael i breswylwyr a busnesau lleol gyflwyno adborth a fydd yn helpu i lunio’r cynlluniau terfynol.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae Arena Abertawe, y bont newydd dros Oystermouth Road, y parc arfordirol a chyfadeilad fflatiau newydd bellach wedi’u cwblhau yn ein hardal Bae Copr, a disgwylir i elfennau eraill gael eu cwblhau yn y misoedd i ddod.

Ond nid yw’r gwaith i adfywio’n dinas yn gorffen gyda hynny gan y bydd Urban Splash a phartneriaid yn gweithio gyda ni i ailddatblygu safleoedd gan gynnwys Gogledd Abertawe Ganolog yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae angen dymchwel adeilad Llys Dewi Sant er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer yr ailddatblygiad hwnnw a fydd yn creu swyddi i bobl leol gan ddod â mwy o fywyd i ganol y ddinas a denu mwy fyth o ymwelwyr a buddsoddiad.

“Trefnir y bydd y cynigion ar gyfer Gogledd Abertawe Ganolog a safleoedd eraill i’w hailddatblygu gan Urban Splash ar gael i bobl roi adborth arnynt cyn gynted ag y maent wedi’u datblygu’n fanylach.”

Mae safleoedd eraill i’w hailddatblygu gan Urban Splash yn cynnwys safle’r Ganolfan Ddinesig a llain o dir yn agos at bontydd yr afon yn ardal St Thomas y ddinas.

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page