Clinigau ffliw galw heibio i blant a phobl ifanc i’w cynnal yn Rhydaman

Mae rhagor o glinigau brechu rhag ffliw chwistrell trwyn galw heibio ar gyfer plant 2 ac 16 oed (oed ar 31 Awst 2022) yn cael eu cynnal yn Rhydaman.

Gyda salwch y gaeaf ar gynnydd, mae’n bwysig bod rhieni’n sicrhau bod eu plentyn wedi cael eu brechlyn ffliw chwistrell trwyn diogel ac effeithiol.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint, a gall fod yn ddifrifol iddyn nhw.”

“Gall dal y ffliw gynyddu’r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda heintiau eilaidd a gall cymhlethdodau gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau clust. Mae tystiolaeth hefyd i awgrymu y gallai’r brechlyn ffliw trwynol helpu i leihau cyfradd heintiau Strep A mewn plant.”

“Mae brechu yn ei gwneud hi’n llawer llai tebygol y bydd eich plentyn yn ddifrifol wael neu angen mynd i’r ysbyty pe bai’n dal y ffliw y gaeaf hwn ac rydym yn gobeithio y bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu rhieni i gael mynediad at y brechlyn ar gyfer eu plentyn.”

Os oes angen brechiad ffliw chwistrell trwyn ar eich plentyn, galwch heibio i:

Y Llusern, Stryd y Gwynt, Rhydaman SA18 3DR rhwng 10.00am a 2.00pm ddydd Sul 12 Chwefror 2023
Cyn belled nad oes gan eich plentyn dymheredd uchel, gall dderbyn ei frechiad ffliw, hyd yn oed os oes ganddo annwyd neu fân salwch arall.

Ar ôl cael eu brechu, efallai y bydd rhai plant yn cael tymheredd, yn teimlo’n flinedig, yn cael cur pen, yn cael poen yn y cyhyrau neu’n cael llai o archwaeth bwyd am ddiwrnod neu ddau. Gall y chwistrell trwyn achosi i’r trwy redeg neu wedi’i rwystro, ond fel arfer dim ond ychydig ddyddiau y bydd hyn yn para. Mae adweithiau eraill yn llai cyffredin.

 

We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: