“Cyfrifoldeb mawr” medd Rhys ap Trefor wrth bortreadu gweithiwr streic Friction Dynamics

Mae’r actor Rhys ap Trefor yn dweud ei fod wedi teimlo “cyfrifoldeb mawr” wrth bortreadu un o weithwyr streic Friction Dynamics yn y gyfres ddrama newydd, Y Streic Fawr.

Mae’r gyfres dair rhan, sy’n dechrau ar S4C ar 6 Rhagfyr, yn adrodd hanes y 86 o weithwyr a fu’n streicio ar linell biced ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon am bron i dair blynedd, yn ystod un o anghydfodau diwydiannol hiraf hanes Prydain.

Gyda 25 mlynedd wedi mynd heibio ers dechrau’r streic yn 2001, bu’r awdur Ffion Dafis yn gweithio’n agos gyda rhai o’r cyn-weithwyr i sicrhau bod eu hanes yn cael ei adrodd mor gywir â phosibl.

Mae Rhys ap Trefor yn chwarae rhan John Davis, un o arweinwyr yr ymgyrch a gafodd ei ddewis i gynrychioli’r gweithwyr yn y llys. Wrth ymchwilio ar gyfer y rôl, cafodd gyfle i siarad â John a’i deulu am effaith yr anghydfod ar eu bywydau.

“Roedd o’n trafod pa mor anodd oedd o iddyn nhw fel teuluoedd oedd yn gorfod byw ar arian rhodd, a sut oedden nhw’n ymdopi ar hynny,” meddai Rhys.

“Pethau fel os oedd rhywun yn mynd i’r siop i brynu bwyd, bydden nhw’n chwilio am y cynigion buy one get one free a rhannu’r eitem free efo rhywun arall. Roedd clywed straeon fel yna’n gwneud y cyfan yn fwy real. Roedd hynny’n brofiad gwahanol iawn i ddrama arferol.

“Ti’n teimlo cyfrifoldeb i fod yn driw i’w profiadau nhw. Pan oedd John yna ar y set a finnau’n gorfod bod yn fo ar ben llwyfan i siarad gyda gweddill y gweithwyr, a fynta yn yr ochr yn gwrando, roedd hynny’n brofiad nerfus iawn.

“Nath o wneud i ni’r actorion deimlo fel bod ni’n rhan o’r ymgyrch. Na’th o ddod â realiti i’r ochr ffuglenol a gwneud iddo deimlo’n fyw, fel petasen ni’n byw ynddo fo.”

Mae Rhodri Trefor yn chwarae rhan Tomi Jones, steward siop a ddaeth yn ddiweddarach yn swyddog llawn amser i Undeb y Transport and General yng Ngogledd Cymru.

Yn ôl Rhodri, mae neges y stori yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd 25 mlynedd yn ôl.

“Dwi’n meddwl bod hi’n stori mor berthnasol heddiw,” meddai. “Y bobl gyffredin sy’n colli fwyaf pan mae cwmnïau mawr yn gwneud fel y mynnon nhw, a dwi’n meddwl bod hi’n bwysig atgoffa pobl o’r hanes yma.

“Wnaethon nhw aberthu wrth streicio, ac ennill, ond chawson nhw ddim llawer ar ei ddiwedd hi.”

Mae’r gyfres hefyd yn rhoi lle i safbwyntiau gwahanol o fewn y gweithlu. Mae Iwan Garmon yn chwarae rhan Stephen, gweithiwr ifanc yn y ffatri sydd ddim yn ymuno â’r streic ac sy’n cynrychioli rhai o’r safbwyntiau gwahanol oedd yn bodoli ymhlith y gweithlu ar y pryd.

“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y streic cyn gwneud y ddrama, oedd yn siom ac yn sioc achos dwi’n cymryd diddordeb yn hanes Cymru,” meddai Iwan.

“Roedd edrych drwy ddeunydd archifol a chyfweliadau o’r cyfnod yn help mawr wrth wneud yr ymchwil, ond mwy na dim roedd o’n atgoffa rhywun o’r cyfrifoldeb oedd arnon ni i ddweud y stori mewn ffordd oedd yn driw i’r gwir, y digwyddiadau a’r bobl gafodd eu heffeithio.”

Ychwanegodd Iwan fod presenoldeb rhai o’r cyn-weithwyr yn ystod y cynhyrchiad wedi atgyfnerthu’r ymdeimlad hwnnw o gyfrifoldeb:

“Roedden ni’n gweithio yng nghanol y gymuned ac o gwmpas pobl sy’n dal i gofio’r digwyddiadau a’u heffeithiau. Roedden ni jest eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n dweud y stori mewn ffordd deilwng.”

Cafodd y gyfres ei ffilmio’n bennaf yng Nghaernarfon a’r cyffiniau, gyda rhai o gyn-weithwyr y ffatri yn ymddangos ynddi fel actorion cynorthwyol.

Dywedodd Rhys ap Trefor fod ymateb y gymuned leol yn dangos pa mor bwysig yw’r hanes i’r ardal.

Meddai Rhys, “Roedd pawb yn hynod groesawgar ac yn falch bod yr hanes yma’n cael ei adrodd. Roedd hi’n amlwg eu bod yn gwerthfawrogi’r gofal oedd yn cael ei gymryd i drin y stori gyda pharch.”

Ysgrifennwyd y gyfres gan Ffion Dafis a chafodd ei chyfarwyddo gan Huw Chiswell.

Bydd pennod gyntaf Y Streic Fawr yn cael ei darlledu ar S4C am 9.00pm ar 6 Rhagfyr, gyda’r tair pennod ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad.

Mae’r gyfres yn gynhyrchiad gan Cynhyrchiadau Mojo ar gyfer S4C, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

You cannot copy any content of this page