Cyhoeddi Enwau Dau Awdur Newydd yn Sgil Cynllun AwDUra

Ddiwedd Ebrill llynedd fe lansiodd y Mudiad gynllun ‘AwDUra’ er mwyn annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ‘sgwennu straeon i blant bach cymuned Mudiad Meithrin a thu hwnt.

Mae dau enw mawr o fyd ‘sgwennu a chyhoeddi Cymru – Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros wedi bod yn cydweithio â’r Mudiad ar y cynllun ac wedi bod yn mentora’r 10 ymgeisydd llwyddiannus a fu’n rhan o’r cynllun.

 

Meddai’r awdur Manon Steffan Ros:

“Mae’n anrhydedd go iawn i mi gael bod yn rhan o brosiect AwDura. Mae Cymru yn gartref i drawsdoriad eang iawn o bobol, ond tydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant o gwbl, ac mae’n bryd unioni’r cam yma a chymryd camau positif ac adeiladol i sicrhau cynrychiolaeth teg yn ein llenyddiaeth.”

 

Dywedodd yr awdur Jessica Dunrod:

“Mae’n bleser mawr gennyf gydweithio gyda Mudiad Meithrin ar brosiect sy’n mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg a’r diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i lenorion Cymraeg.”

 

Yn ystod y cynllun bu i’r 10 ymgeisydd dderbyn cefnogaeth i greu straeon i blant bach ac mae’r Mudiad wedi ymrwymo i gyhoeddi gwaith dau o blith yr awduron newydd gan gefnogi pob un i barhau i greu llenyddiaeth i blant wedi i gyfnod y cynllun ddod i ben. Fe anfonodd bob un destun eu llyfrau at Manon a Jessica ynghyd â Nia Gregory (arweinydd Cylch Meithrin Llanypwll, Wrecsam oedd ar y panel beirniadu) i ddewis 2 lyfr i’w cyhoeddi. Y ddau ddarpar-awdur sydd wedi eu dewis i gyhoeddi eu llyfrau i blant yw Chantelle Moore a Mili Williams, gyda Sarah Younan yn sgwennu stori ar ffurf cartŵn yn WCW – cylchgrawn Cymraeg i blant bach.

Meddai Mili Williams, sy’n dod yn wreiddol o Fangor, Gwynedd:

“Roeddwn i’n hollol gyffrous i gymryd rhan yn y prosiect hwn ac ar ben fy nigon o fod wedi cael fy newis i gael cyhoeddi fy ngwaith! Mae Manon a Jessica wedi rhannu eu mewnwelediad a’u gwybodaeth werthfawr dros y misoedd diwethaf ac mae wedi fy helpu’n fawr i gredu fy mod i’n gallu gwneud hyn! Dwi methu aros am y cam nesaf yn y daith hudolus yma ac i weld fy llyfr mewn print! Diolch Mudiad Meithrin!”

 

Meddai Chantelle Moore sydd wedi’i geni a’i magu yng Nghaerdydd:

 

“Am syndod hyfryd, ond annisgwyl o fod wedi cael fy newis. Cychwynnais ar y daith hon i ddechrau, yn syml, i fod yn rhan o ofod a grëwyd i hyrwyddo straeon ar lawr gwlad am dreftadaeth a diwylliant. Nawr rwy’n falch iawn y bydd y daith yn parhau. Rwy’n arbennig o falch i allu anrhydeddu fy nhad-cu, ymfudwr cenhedlaeth Windrush i Gaerdydd a fu farw’n 95 oed yn ddiweddar, trwy rym stori. Rwyf hefyd yn obeithiol y gallai fy ysgrifennu yn y dyfodol gyfrannu at Gymru lle gall fy mhlant, o dreftadaeth gymysg, dyfu i fyny yn gweld eu hunain mewn llyfrau, yn falch o fod yn siaradwyr Cymraeg, ac wedi’i wreiddio’n ddwfn yn eu hunaniaeth.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page