Uchelgais Plaid i Gymru yn Fwy Na’r Hyn Mae Cydllideb Llafur yn ei Gynnig

Yn ymateb i’r gyllideb derfynol ar gyfer 2025-26, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid a Diwylliant, Heledd Fychan AS:
“Bydd Plaid Cymru wastad yn ceisio gweithio gydag eraill i ddod o hyd i dir cyffredin lle bo hynny’n bosib. Fodd bynnag, mae’r Gyllideb hon yn methu mynd i’r afael yn ddigonol â’r heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl – ac felly allwn ni ddim ei chefnogi.

“Mae elfennau o’r Gyllideb i’w croesawu ond ni ellir anwybyddu’r bylchau enfawr, a slogan wag ydi’r bartneriaeth mewn grym’ fel y’i elwir rhwng Llywodraethau Llafur Cymru a’r DU – dim arian HS2, dim fformiwla ariannu teg a dim datganoli Ystad y Goron.

“O lywodraeth leol i’r gwasanaeth iechyd, mae angen llywodraeth fydd â syniadau ffres er mwyn gwario’r gyllideb yn well, fydd ddim yn ildio wrth fynnu chwarae teg i Gymru – dyna addewid Plaid Cymru i bobl Cymru.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page