Daeth disgyblion, rhieni a staff Ysgol Parc Waundew at ei gilydd a chodi £600 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.
Trefnwyd y digwyddiad codi arian, a gynhaliwyd ddydd Gwener 25 Medi yn yr ysgol, gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol, mewn ymdrech i gefnogi elusennau lleol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o fewn y gymuned.
Roedd disgyblion yr ysgol yn hynod frwdfrydig ynglŷn â’r digwyddiad codi arian, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau pobi ar gyfer y digwyddiad.
Dywedodd Rianne Morgan, Cadeirydd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon (PTA): “Fel PTA, rydym yn gweithio’n agos gyda’r ysgol a theuluoedd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â chymuned ein hysgol at ei gilydd, tra’n codi arian at achosion gwerth chweil.”
“Dewisom godi arian ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Glangwili drwy Elusennau Iechyd Hywel Dda, oherwydd roeddem am gefnogi’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud ar gyfer cleifion lleol a’u teuluoedd.
“Roedd yr achos hwn yn teimlo’n arbennig o ystyrlon i ni, gan ei fod yn cefnogi pobl yn ein cymuned leol sy’n cael triniaeth ar gyfer canser. Roeddem yn teimlo y byddai cynnwys yr ysgol gyfan yn ffordd wych o ddod at ein gilydd, codi ymwybyddiaeth a gwneud cyfraniad ystyrlon.
“Aeth y gwaith codi arian yn dda iawn, ac roedd yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil. Roedd yn hyfryd gweld cymuned gyfan yr ysgol yn cymryd rhan er mwyn achos lleol mor bwysig, gyda phlant o bob dosbarth yn pobi cacennau a danteithion i gyfrannu at y digwyddiad.
“Roeddem wrth ein bodd yn codi £600 ar gyfer yr uned, a hoffem ddiolch i’r holl blant, rhieni a staff a helpodd i wneud y digwyddiad yn llwyddiant mor fawr.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Ysgol Parc Waundew am eich ymdrechion gwych i godi arian! Mae’n wych gweld ein hysgolion lleol yn trefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer eu helusen GIG.”
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.