Yn y llun uchod: Tom a Scarlett Hughes gyda staff o’r Tîm Diabetes Pediatrig
Fe wnaeth Tom Hughes herio Farathon Brighton ym mis Ebrill, gan godi swm anhygoel o £1,227 ar gyfer y Gwasanaeth Diabetes Pediatrig i gefnogi ei ferch.
Cymerodd Tom rhan yn y marathon ar 12 Ebrill 2026 ar gyfer gwasanaeth sydd â lle arbennig iawn yn ei galon.
Cafodd merch Tom, Scarlett, ddiagnosis o ddiabetes math 1 ddeuddydd yn unig ar ôl ei phen-blwydd yn ddwy oed.
Wrth siarad am y diagnosis, dywedodd Tom: “Roedd yn gyfnod brawychus, dywedwyd wrthym am baratoi ar gyfer y gwaethaf. Ond mewn gwir ffasiwn Scarlett, heriodd bob disgwyliad. Fe wnaeth hi frwydro trwy’r cyfnod, a heddiw mae hi’n gwneud yn anhygoel o dda.
“Mae gymaint o adferiad a lles parhaus Scarlett er mwyn y tîm anhygoel yng Nghanolfan Diabetes Pediatrig Caerfyrddin. Ni ddaeth eu cefnogaeth i ben ar ôl diagnosis – maen nhw wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd.
“O ofal o ddydd i ddydd i gefnogaeth emosiynol a hyd yn oed drefnu diwrnodau chwarae blynyddol fel bod plant sy’n byw gyda Math 1 yn gallu chwerthin, cysylltu, a theimlo fel plant eto. Mae’r digwyddiadau hyn a’r lefel hon o ofal yn golygu’r byd i deuluoedd fel fy un i. Ond nid oes dim ohono am ddim—mae’r ganolfan yn gweithredu ar gyllideb dynn, ac mae pob gwên ychwanegol a ddaw yn eu sgil yn cymryd cymorth ychwanegol.
“Dyna pam y dewisais i godi arian ar gyfer y gwasanaeth. I roi yn ôl, i ddweud diolch. Ac i’w helpu i ddod â mwy o lawenydd, gofal, a gobaith i deuluoedd sy’n wynebu’r un daith a wnaethom. Diolch o waelod fy nghalon i bawb a gyfrannodd.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Tom am ymgymryd â Marathon Brighton i gefnogi gwasanaeth sydd mor agos at ei galon. Bydd ei ymdrechion a’i haelioni’n cael effaith wirioneddol ar y tîm, ac rydym yn hynod ddiolchgar am ei gefnogaeth.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, megis amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau a’u datblygu.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.
