Cyhoeddi cronfa Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru 2022-23

MAE gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru gyllid prosiect ar gael, hyd at £1500 i helpu i greu cymunedau cydlynus.

Cydlyniant cymunedol yw’r broses sy’n gorfod digwydd i sicrhau bod gwahanol grwpiau o bobl yn cyd-dynnu’n dda yn yr ardal. Cymuned gydlynus yw ardal lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo’n ddiogel yn y gymdogaeth, ac yn parchu ei gilydd ac yn rhannu’r un gwerthoedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2022. I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa, cysylltwch â Sarah Bowen ar slbowen@sirgar.gov.uk

Bydd Cronfa Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol yn cefnogi prosiectau sy’n bodloni un o’r meysydd blaenoriaeth canlynol:

datblygu digwyddiadau/mannau diogel i ddod â phobl o bob rhan o gymunedau gwahanol at ei gilydd. Gallai digwyddiadau hyrwyddo integreiddio, gan gynnwys cymunedau newydd fel ffoaduriaid o Wcráin/Syria/Afghanistan ac ati sydd wedi’u hadsefydlu;

codi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau megis: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb; Wythnos Rhyng-ffydd; Diwrnod Cofio’r Holocost; Diwrnod Rhyngwladol Anableddau; Mis Hanes Pobl Dduon ac ati;

canolbwyntio ar Droseddau Casineb;

ymgysylltu â grwpiau amrywiol i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a lliniaru tensiynau cymunedol; a hefyd

cefnogi cymunedau ag anghenion megis argyfwng costau byw (e.e. Coginio ar gyllideb, digwyddiadau gydag asiantaethau i roi cyngor ar gyllid ac ati).

Dywedodd Matthew Vaux, Aelod cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiogelwch Cymunedol:

“Mae hwn yn swm defnyddiol o arian i helpu cymunedau ar draws y rhanbarth. Rydym yn annog unrhyw un sy’n credu y byddai hyn o fudd i’w prosiect neu syniad penodol i gyflwyno cais neu o leiaf gysylltu i drafod eich syniad ymhellach.”

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page