Ymestyn ymgynghoriad ar gynlluniau lleihau llifogydd yn Nyffryn Teifi

MAE ymgynghoriad llifogydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr ar gyfer Dyffryn Teifi wedi’i ymestyn hyd at 31 Awst 2022.

Mae’r ymgynghoriad ar-lein a aeth yn fyw ar 06 Mehefin wedi’i ymestyn oherwydd yr angen i gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb i ategu’r ymgynghoriad hwn er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd siarad â chynrychiolydd o’r holl bartneriaid cysylltiedig.

Mae lleoliadau ar gyfer y cyfarfodydd hyn wedi’u trefnu ar gyfer Llandysul/Pont-Tyweli a Llanybydder fel a ganlyn;

Dydd Mercher 24 Awst 2022, 10am i 1pm a 3pm i 6pm, y Pwerdy, Llandysul/Pont-Tyweli
Dydd Iau 25 Awst 2022, 10am i 1pm a 3pm i 6pm, Clwb Rygbi Llanybydder

Bydd swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chynrychiolydd o’r ymgynghorydd a gyflogir gan y ddau awdurdod ar gael yn y lleoliadau i ateb unrhyw ymholiadau.

Mae pob partner sydd ynghlwm â hyn eisiau deall yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar gymunedau, sut mae’r llifogydd yn digwydd, ac asesu gwahanol fesurau a fydd yn lleihau’r effaith yn ystod y tywydd cynyddol stormus a fydd yn y dyfodol.

Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu sylwadau a’u hadborth yn bersonol drwy ysgrifennu eu sylwadau a’u rhoi yn y blwch a fydd ar gael yn y lleoliadau. Bydd hyn yn ychwanegol i’r sylwadau a’r awgrymiadau a gyflwynwyd yn ystod y broses ymgynghori ar-lein.

Bydd adborth o’r ymgynghoriad ar-lein yn bwydo i mewn i gam nesaf y gwaith ac yn rhan o benderfyniadau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch dylunio a gweithredu cynllun posibl i leihau’r perygl o lifogydd.

Keith Henson yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Rydym yn annog trigolion Llandysul, Pont-Tyweli a Llanybydder i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwn, naill ai trwy fynychu’r digwyddiadau wyneb yn wyneb yn y lleoliadau hynny neu trwy’r ddolen ar-lein ar wefan y Cyngor. Bydd ymatebion yr ymgynghoriad yn ein galluogi ni a’n partneriaid i archwilio pa opsiynau sydd gennym i reoli perygl llifogydd yn Nyffryn Teifi.”

Dywedodd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Gwasanaethau Seilwaith Cyngor Sir Gâr: “Rydym eisiau cymaint o adborth a phosib gan drigolion fel y gallwn, gyda’n gilydd, edrych ymhellach ar yr opsiynau sydd ar gael i ni i reoli perygl llifogydd yn y cymunedau hyn. Bydd y digwyddiadau galw heibio yn gyfle i drigolion siarad â swyddogion am y gwahanol opsiynau sydd ar gael a’r camau nesaf.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page