Dweud Eich Dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn BIP Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn datblygu gweledigaeth newydd ar gyfer y celfyddydau ac iechyd i wella iechyd a llesiant cleifion, cymunedau a staff ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro drwy ymgysylltu â’r celfyddydau.

Mae gan y Tîm Celfyddydau ac Iechyd weledigaeth a rennir gyda Chanolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, sef gweithio tuag at sicrhau bod pawb yn byw bywyd iach, yn llawn llawenydd, pwrpas a theimlad o berthyn. Gweledigaeth y bobl a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt i fod yn: Gysylltiedig – gallu byw a gweithio gyda’i gilydd; Cefnogol – gallu helpu ei gilydd; Addasu – gallu newid fel y bo angen; Gwydn – gallu bownsio’n ôl pan fyddant yn wynebu heriau; Dyfeisgar – gallu dod o hyd i ffyrdd o oresgyn problemau.

Mae tîm y Celfyddydau ac Iechyd yn gweithio tuag at y weledigaeth hon drwy’r celfyddydau a cherddoriaeth. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae tîm y Celfyddydau ac Iechyd yn awyddus i adeiladu ar y wybodaeth a’r sylfaen dystiolaeth gynyddol sy’n dweud wrthym fod gan y celfyddydau rôl bwerus i’w chwarae wrth gefnogi iechyd a llesiant.

Dywedodd Kathryn Lambert, Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd, “O waith ymchwil, rydym wedi gweld bod celf yn arf i archwilio, datblygu ac ymarfer creadigrwydd fel ffordd o sicrhau lles. Dyna pam yr ydym wedi ymgorffori creadigrwydd a chelfyddydau i gefnogi llesiant ein staff, y claf a’r gymuned.

Mae’r fenter hon ar eich cyfer chi, ac rydym eisiau gwybod pa raglenni yr hoffech i ni eu rhoi ar waith. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y gorau o bŵer iachau’r celfyddydau”

Er mwyn ein helpu i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y celfyddydau ac iechyd, rydym am i chi wybod beth yw eich barn.

Hoffem wybod:

• Sut gallai’r celfyddydau helpu i wella iechyd a lles pobl ledled Hywel Dda?

• Sut gallai celf a cherddoriaeth wella ansawdd eich profiad ysbyty neu ofal?

• Sut gallai’r celfyddydau a chreadigrwydd fod wedi’ch helpu chi? Hoffem wybod eich stori.

Bydd “gweledigaeth a chynllun y Celfyddydau ac Iechyd” newydd ar gyfer Hywel Dda yn cael eu datblygu allan o’r broses ymgysylltu i arwain Tîm y Celfyddydau ac Iechyd i sicrhau bod creadigrwydd wrth galon ein holl wasanaethau.

I gael gwybod mwy, ewch i’n platfform ymgysylltu ar-lein www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/have-your-say-about-arts-health-at-hywel-dda neu e-bostiwch kathryn.lambert@wales.nhs.uk.

Os nad yw cymryd rhan yn ddigidol yn addas i chi, rydym yn hapus i glywed gennych trwy sianeli eraill. Cysylltwch â’n Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd dros y ffôn 0300 303 8322 Pwyswch 5 am unrhyw wasanaethau eraill

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page