Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Elusen GIG yn ariannu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar gyfer cleifion sy’n cael triniaeth gwrth-ganser sydd â symptomau menopos

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer y rhai sy’n profi symptomau menopos wrth gael triniaeth gwrth-ganser ar gyfer canser y fron.

 

Therapi siarad yw therapi gwybyddol ymddygiadol a all helpu pobl i reoli eu symptomau trwy newid y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn.

 

Gall symptomau menopos gynnwys gorbryder ac iselder, yn ogystal â symptomau seicolegol a ffisiolegol eraill fel pyliau o wres a chwysu yn y nos, problemau cysgu a blinder. Yn ystod y therapi, gall pobl ddysgu technegau gwahanol i’w helpu i reoli ac ymdopi â’r symptomau hyn.

 

Dywedodd Linsey Jones, Cydlynydd Oncoleg Acíwt Macmillan: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni gymryd rhan yn yr ymyriad therapi gwybyddol ymddygiadol.

 

“Bydd yr ymyriad o fudd i gleifion sy’n profi sgil-effeithiau annymunol o ganlyniad i’w triniaeth canser a hynny trwy eu cyflwyno i strategaethau hunanreoli, yn seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â symptomau menopos.”

 

Dywedodd Sally-Ann Rolls, Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg, Arweinydd Cwrs: “Mae’r cwrs hwn wedi newid bywydau rhai o’n cleifion yn llythrennol. Ni allem ddarparu’r lefel hon o gyfoethogiad heb y cronfeydd elusennol hael iawn a ddarparwyd.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG yn lleol, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page