Ffermwyr a Phlaid Cymru yn ymladd newidiadau Treth Etifeddiant yn y Senedd

Bydd teuluoedd ffermio sydd am eu heffeithio gan newidiadau i’r dreth etifeddiant yn teithio i’r Senedd ddydd Mercher, 5ed Mawrth i annog Aelodau’r Senedd i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn galw am ailystyried y polisi.

Bydd y ddadl a’r bleidlais yn cael eu hystyried fel ymdrech olaf i berswadio Llywodraeth Cymru i anfon neges glir at eu cydweithwyr yn y Blaid Lafur yn San Steffan. Daw hyn wythnosau yn unig cyn Cyllideb Wanwyn y DU sy’n rhoi cyfle i Rachel Reeves gyhoeddi newid mewn polisi.

Bydd NFU Cymru yn cydlynu cyfarfodydd rhwng casgliad o deuluoedd ffermio a’u cynrychiolwyr etholedig ar ddiwrnod y ddadl i annog gwleidyddion o bob plaid i gefnogi’r cynnig.

Bydd y ddadl yn cael ei harwain yn y Senedd gan Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Llŷr Gruffydd AS. Fe ddywedodd:

“Bydd y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU yn arwain at ganlyniadau dinistriol i deuluoedd ffermio ledled Cymru.

“Nid yw Cymru yn genedl o ffermwyr sydd yn filiwnyddion. Mae ein ffermydd teuluol yn gweithredu ar gyllidebau tynn, ac maent yn ariannol dlawd. Mae llawer eisoes mewn dyled. Bydd y newidiadau hyn yn golygu bod teuluoedd yn gorfod gwerthu tir, gan dorri i mewn i’w bywoliaeth a gwneud eu ffermydd yn llai hyfyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

“Mae’r polisi yn anfaddeuol ac yn gwbl wrthgynhyrchiol ar adeg pan mae angen i ni fod yn cryfhau ein diogelwch bwyd nid ei danseilio.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r achos cryfaf posib i’w cydweithwyr Llafur yn Llundain i newid trywydd.”

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Mr Aled Jones:

“Os bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i dreth etifeddiant yn mynd yn eu blaen, yna fe fyddan nhw’n cael effaith hynod o andwyol ar ffermydd teuluol Cymru a’r holl fusnesau sydd yn eu tro yn dibynnu arnyn nhw.

“Drwy osod rhwymedigaethau treth anghynaliadwy ar asgwrn cefn ein system fwyd, mae perygl i Lywodraeth y DU ddatgymalu sector hanfodol a gwagio ein cymunedau gwledig.

“Rwyf felly’n croesawu’n fawr y ffaith bod Plaid Cymru wedi sicrhau’r ddadl hon, mae’n hanfodol bod effeithiau’r cynigion hyn ar Gymru yn cael eu clywed a’u hystyried yn drylwyr yma yn y Senedd.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page