Ffermydd Cymru i rannu miliynau o bunnoedd

Bydd ffermydd Cymru’n cael cyfran o £62.5 miliwn o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2022 wrth i daliadau llawn neu daliadau olaf gael eu talu yfory (Dydd Gwener 9 Rhagfyr).

Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mae taliadau’n cael eu gwneud i dros 14,400 o fusnesau fferm ledled Cymru, sef 90% o’r hawlwyr.

Mae hyn yn ychwanegol at y taliadau ymlaen llaw gwerth £161m o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol a wnaed i 97% o’r rhai sy’n hawlio ym mis Hydref. Dyma oedd yr ail flwyddyn i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wneud taliadau ymlaen llaw ac awtomatig ym mis Hydref ar ôl symleiddio gofynion Cynllun y Taliad Sylfaenol.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch ein bod eto’n gwneud nifer uchel iawn o daliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol i ffermydd ledled Cymru ar ddechrau’r cyfnod talu.

“Rydym yn byw mewn cyfnod economaidd heriol ac mae’r taliadau hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol i fusnesau fferm.

“Rwyf am ddiolch i’r sector ac i Taliadau Gwledig Cymru sydd unwaith eto wedi cydweithio’n agos i ddarparu’r nifer rhagorol o daliadau.

“Mae’r gwaith yn parhau i sicrhau bod hawliadau 2022 sy’n weddill yn cael eu prosesu cyn gynted â phosib. Rwy’n disgwyl i bob achos ac eithrio’r rhai mwyaf cymhleth gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2023.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page