Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin

GOFYNNIR i drigolion am eu barn i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r trydydd sector yn cynnwys amrywiaeth o wahanol sefydliadau, megis elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol, sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i ystod eang o drigolion, gan helpu i wella iechyd a llesiant pobl.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ar newid y ffordd y mae’n comisiynu gwasanaethau’r trydydd sector i’w gwneud yn symlach ac yn haws i drigolion gael mynediad iddynt, ac i wella ansawdd y cymorth a’r gweithgareddau a ddarperir drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl leol.

Mae’r newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i bandemig COVID-19 yn cael eu hystyried yn gyfle i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi’i wneud ac i nodi pa wasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i gael barn pobl i helpu i gynllunio a darparu model gwasanaeth cymunedol newydd a fydd yn diwallu anghenion cymunedau.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 26 Awst i ddweud eich dweud. Mae copïau papur hefyd ar gael gan ganolfannau gwasanaethau cwsmeriaid Hwb y Cyngor yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, ac mae nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn ystod yr haf i ymgysylltu’n uniongyrchol â thrigolion.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae gan y cyngor berthynas hirsefydlog a gwerthfawr â’r trydydd sector sy’n chwarae rôl bwysig wrth helpu i wella llesiant pobl. Mae ein trafodaethau wedi amlygu bod cyfoeth o wybodaeth, profiad a sgiliau mewn sefydliadau, yn enwedig mewn perthynas â phrofiad byw defnyddwyr gwasanaeth a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i ddarparu gwasanaethau modern o safon uchel sy’n diwallu anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i nodi pa wasanaethau sydd eu hangen yn y dyfodol a ble a sut y byddai pobl yn hoffi cael mynediad iddyn nhw.”

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page