Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu tri iPad i’w defnyddio ar draws adrannau cleifion allanol plant Hywel Dda. Bydd hyn yn helpu i wella profiad plant a chleifion ifanc sy’n mynychu apwyntiadau ysbyty ac yn cael triniaethau meddygol.
Bydd yr iPads, sydd werth dros £1,200, yn cael eu defnyddio fel offer tynnu sylw digidol i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod apwyntiadau cleifion allanol.
Mae technegau tynnu sylw digidol yn cael eu cydnabod fwyfwy fel offer effeithiol mewn lleoliadau gofal iechyd pediatrig. Drwy ymgysylltu â gemau, fideos a chynnwys rhyngweithiol, gall plant ganolbwyntio eu sylw i ffwrdd o driniaethau fel brechiadau, profion gwaed ac ymyriadau cleifion allanol eraill, gan helpu i leihau eu canfyddiad o boen a phryder. Gall y dull hefyd wella cydweithrediad â staff gofal iechyd yn ystod gweithdrefnau, creu profiadau mwy cadarnhaol a helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng cleifion ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Rydym wrth ein bodd bod rhoddion hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r iPads hyn.
“Gall mynychu apwyntiadau ysbyty fod yn brofiad sy’n achosi pryder i lawer o blant. Mae technegau tynnu sylw digidol yn ffordd syml ond hynod effeithiol o’u helpu i deimlo’n fwy tawel, yn fwy o dan reolaeth ac yn llai ofnus yn ystod gweithdrefnau. Trwy ddarparu gweithgareddau deniadol sy’n addas i’w hoedran, bydd y dyfeisiau hyn yn helpu i greu profiad mwy cadarnhaol i blant a’u teuluoedd, tra’n cefnogi ein staff i ddarparu gofal mewn ffordd dosturiol sy’n ystyriol o blant.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o gefnogi’r tîm chwarae therapiwtig drwy ariannu’r iPads hyn ar gyfer adrannau cleifion allanol plant ledled Hywel Dda.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am ragor o fanylion am yr elusen, a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG yn lleol, ewch i
hywelddahealthcharities.nhs.wales.