MAE Cyngor Abertawe wedi trawsnewid ochr bryn yn y ddinas yn llwybr cerdded a beicio cyffrous a darluniadol.
Mae’r safle a adwaenir yn lleol fel Y Ceunant, yng nghymuned Townhill, wedi’i adennill gan y llwybr newydd a ariannwyd drwy fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae’r llwybr a rennir 1.4km sydd wedi’i amgylchynu gan goed a thirwedd werdd, yn igam-ogamu i lawr arglawdd serth, gan gysylltu Gors Avenue â Gwent Road.
Gall cerddwyr a beicwyr o bob oed deithio’n hawdd yn awr rhwng y ddwy ffordd gan osgoi prif ffyrdd a hefyd fwynhau’r golygfeydd ar draws y ddinas wrth iddynt deithio.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd:
“Mae’r llwybr hwn yn un o’r rhai mwy heriol rydym wedi’u creu. Ein nod oedd cysylltu dwy ran o’r gymuned sydd ar lefelau gwahanol iawn o ran uchder.
“Mae’n lleoliad serth ac felly rydym wedi creu llwybr igam-ogam ei natur y gall pawb ei ddefnyddio nawr.
“Yn y blynyddoedd a fu, bu’r Ceunant yn fan poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon. Gobeithio, gan ein bod bellach wedi adennill y safle a’i agor i fyny y byddwn yn gweld llai o’r math hwn o ymddygiad.”
Mae’r Ceunant yn un o nifer o lwybrau cerdded a beicio a gwblhawyd yn y misoedd diweddar.
Mae rhan newydd o lwybr teithio llesol wedi’i chreu ar hyd Jersey Road, Bôn-y-maen, gan ddarparu cyswllt hanfodol i lwybrau cerdded a beiciau cyfagos, gan ei gwneud yn haws i blant gerdded a beicio i’r ysgol.
Mae llwybr pellach wedi’i greu yn Nhreforys sy’n rhedeg ar hyd afon Tawe.
Yn gynharach eleni, gwnaeth y cyngor gais llwyddiannus am dros £7 miliwn ar gyfer rhagor o lwybrau cerdded a beicio. Bydd hyn yn cynnwys llwybr 2.4k o hyd, mawr ei angen, ar draws comin Clun i gysylltu cymuned Llandeilo Ferwallt â llwybr newydd ar hyd Mayals Road ac ymlaen i lan y môr.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens:
“Unwaith eto, mae Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid pwysig rydym am ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn y ddinas.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn am nifer o flynyddoedd, yn creu llwybrau cerdded a beicio sy’n rhoi ffyrdd amgen i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o gwmpas y lle, heb orfod defnyddio car.
“Yn y tymor hir, ein nod yw cael rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio cwbl gysylltiedig ar draws Abertawe fel y gall pob cymuned elwa o ddulliau mwy cynaliadwy o deithio o gwmpas y lle.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.