Llyfrau a ariannwyd gan elusen yn helpu plant i ddeall gweithdrefnau meddygol

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu llyfrau stori meddygol sy’n addas i blant i helpu plant i deimlo’n llai pryderus ynghylch apwyntiadau a thriniaethau.

Mae’r llyfrau’n esbonio gweithdrefnau meddygol mewn ffordd syml, weledol, gan helpu plant i ddeall beth fydd yn digwydd – sy’n gwneud i weithdrefnau fel profion gwaed neu fonitro deimlo’n llai brawychus ac yn fwy rhagweladwy.

Dywedodd Roxanne Andrews, Ymarferydd Cynorthwyol Pediatrig: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ein galluogi i brynu’r llyfrau darllen addysgiadol ar gyfer ein gwasanaeth.

 “Mae gennym ddau lyfr ym mhob sir bellach, gan roi offer ychwanegol i’n timau i helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n fwy cyfforddus ac yn fwy parod cyn gweithdrefnau a thriniaethau.

 “Mae’r llyfrau’n defnyddio lluniau clir ac iaith syml i esbonio gweithdrefnau meddygol mewn ffordd sy’n gyfeillgar i blant, gan helpu i leihau pryder a gwella dealltwriaeth i blant a’u teuluoedd.

 “Mae’r cyllid hefyd wedi ein galluogi i brynu offer nyrsio chwarae ac adnoddau adborth, gan helpu plant i rannu eu profiadau a’i gwneud hi’n haws i ni barhau i wella’r gwasanaeth a ddarparwn.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o helpu gydag addysg plant ar weithdrefnau meddygol trwy ddarparu’r cyllid i brynu’r llyfrau hyn.

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Am ragor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/

You cannot copy any content of this page