Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau strôc, a ddaeth i ben ddydd Sul 26 Gorffennaf 2026.
Yn ystod yr ymgynghoriad wyth wythnos, rhannodd cleifion, gofalwyr, staff, sefydliadau partner a chymunedau cyfagos eu barn ar gynigion ar gyfer dyfodol gwasanaethau strôc ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro ac ardaloedd byrddau iechyd cyfagos.
Lansiwyd ail gam yr ymgynghoriad ar strôc ar 28 Mai 2026, a chasglwyd adborth drwy holiaduron, digwyddiadau, cyfarfodydd a sesiynau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys dros 700 o ymatebion i holiaduron a dderbyniwyd hyd yma, a’r sgyrsiau a gafwyd gyda mwy na 3,000 o bobl mewn 120 o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.
Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar opsiwn a ffafrir, a oedd yn cynnwys:
- Uned strôc ac adsefydlu acíwt 24 awr yn Ysbyty Glangwili
- Uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Bronglais
- Gwasanaethau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg
Datblygwyd yr opsiwn a ffafrir o adborth a gasglwyd yn ystod cam cyntaf yr ymgynghori yn 2025 fel rhan o’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol.
Ar hyn o bryd, darperir gwasanaethau strôc ar draws pedwar prif ysbyty Hywel Dda – Bronglais, Glangwili, Prince Philip a Withybush. Fodd bynnag, nid yw’r gwasanaethau’n bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson, ac nid oes darpariaeth arbenigol ar gyfer strôc ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae gofal ar gyfer cleifion strôc wedi datblygu’n sylweddol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod cleifion yn cael canlyniadau gwell mewn unedau arbenigol sydd â mynediad at dimau ac offer arbenigol drwy’r dydd a’r nos.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol, Mr Mark Henwood: “Diolch i bawb a dreuliodd amser yn llenwi holiadur, yn mynychu digwyddiad neu’n rhannu eu barn â ni yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ymateb rydym wedi’i dderbyn yn adlewyrchu pa mor bwysig yw gwasanaethau strôc i bobl ar draws ein cymunedau ac ardaloedd byrddau iechyd cyfagos.”
Rydym yn ymwybodol bod trafodaeth sylweddol wedi bod ynghylch y cynigion, ac rydym yn gwerthfawrogi’r ffordd feddylgar ac adeiladol y mae pobl wedi ymgysylltu â’r broses ymgynghori. Hoffem roi sicrwydd i bobl nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud. Bydd yr adborth a gasglwyd drwy holiaduron, digwyddiadau a thrafodaethau – ynghyd â’r adborth o gam cyntaf yr ymgynghoriad yn 2025 – yn rhan bwysig o ystyriaethau’r Bwrdd, ochr yn ochr ag ystod eang o wybodaeth arall, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.
“Drwy gydol yr ymgynghoriad, rydym wedi clywed cwestiynau ynghylch beth allai’r cynigion hyn ei olygu i bobl sydd angen triniaeth frys ar gyfer strôc.
Hoffwn ail-bwysleisio, os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn cael strôc, dylech geisio cymorth ar unwaith drwy ffonio 999. Nawr ac yn y dyfodol, bydd cleifion yn parhau i gael eu cludo i’r ysbyty priodol agosaf ar gyfer asesiad a thriniaeth frys. Os oes angen triniaeth arbenigol fel thrombectomi, bydd cleifion yn parhau i gael eu trosglwyddo i ganolfannau arbenigol ym Mryste neu yng Nghaerdydd.
“Rydym hefyd wedi clywed pryderon ynghylch trefniadau teithio a throsglwyddo yn ystod yr ymgynghoriad. Mae gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a darparwyr cenedlaethol eraill yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r broses hon. Bydd unrhyw drefniadau trafnidiaeth yn y dyfodol yn cael eu cynllunio a’u modelu’n ofalus i gefnogi anghenion cleifion wrth amddiffyn capasiti ambiwlansys brys.”
Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei gasglu a’i adolygu ochr yn ochr â’r ymatebion a gasglwyd yn 2025, y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf, data, ac asesiadau effaith wedi’u diweddaru.
Yn dilyn hyn, bydd cyfnod o ystyriaeth ofalus yn dechrau. Mae hyn yn golygu cymryd amser i adolygu ac ystyried yr holl adborth yn drylwyr cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae ystyriaeth ofalus yn seiliedig ar Egwyddorion Gunning, sy’n nodi sut y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn deg ac yn unol â’r gyfraith. Mae’n broses sy’n digwydd er mwyn sicrhau bod barnau a rannwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn briodol.
Bydd adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ar gael a bydd yn cael ei rannu fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd, pryd y gwneir penderfyniad terfynol ynghylch dyfodol gwasanaethau strôc. Unwaith y gwneir penderfyniad, dechreuir gweithio ar gynllun gweithredu, gyda newidiadau yn debygol o gael eu cyflwyno fesul cam er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau’n parhau mor ddiogel â phosibl. Pa bynnag opsiwn a ddewisir, bydd pobl yn parhau i gael mynediad at wasanaethau strôc yn yr un ffordd ag y maent yn ei wneud heddiw.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wasanaethau strôc – gan nodi bod y cyfnod casglu barn ar gyfer yr ymgynghoriad bellach wedi cau – ewch i dudalennau gwe y Bwrdd Iechyd ar gyfer yr ymgynghoriad: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc
Gall unrhyw un a hoffai dderbyn diweddariadau am yr ymgynghoriad, gan gynnwys adroddiadau terfynol, ymuno â’r cynllun cynnwys ac ymgysylltu Siarad Iechyd trwy e-bostio hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk, ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5), pris galwad lleol, neu ysgrifennu at: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD