Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn derbyn gwobr fawreddog UNICEF UK

MAE Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn Llwynhendy, Llanelli wedi derbyn Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau gan UNICEF UK.

UNICEF yw’r sefydliad blaenllaw yn y byd sy’n gweithio i blant a’u hawliau. Mae’r Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn cael ei rhoi i ysgolion sy’n dangos ymrwymiad i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol. Rhoddir y wobr arian i ysgolion sy’n gwneud cynnydd rhagorol tuag at wreiddio egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eu hethos a’u cwricwlwm. Mae dros 1,300 o ysgolion ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ennill y wobr Arian ac mae dros 600 o ysgolion wedi derbyn y wobr Aur, sef y cam nesaf a’r anrhydedd mwyaf a roddir gan UNICEF.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Mrs Jayne Davies:

“Rwy’n falch iawn o’r ysgol am ennill y wobr arian fawreddog hon ar gyfer hawliau plant. Yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn bod angen i blant fod yn ymwybodol o’u hawliau o oedran ifanc a’u cysylltu â’u profiadau bywyd eu hunain. Rydym yn ymwybodol efallai na fydd rhai plant yn y gymuned leol yn cael mynediad at eu holl hawliau ac mae’r ffordd hon o weithio wedi ein helpu i nodi a chefnogi anghenion ein teuluoedd ymhellach. Hoffwn ddiolch o galon i Miss Sophie Harding (Athrawes Ddosbarth), y llysgenhadon Hawliau Plant, llywodraethwyr, staff a dysgwyr am eu holl gymorth wrth roi hawliau plant wrth galon yr ysgol ac am gydweithio’n gadarnhaol i ennill anrhydedd mor wych.”

Meddai y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o Ysgol Gymraeg Brynsierfel am ennill Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Mae’r wobr hon yn cydnabod yn glir y gwaith caled a wnaed gan bawb yn yr ysgol i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hyrwyddo a’u gwireddu.

“Mae addysgu ein disgyblion, a hefyd oedolion, am hawliau plant yn hanfodol er mwyn galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.”

Mae’r Wobr yn cydnabod llwyddiant o ran rhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wraidd cynlluniau, polisïau ac arferion ysgol. Mae Ysgol sy’n Parchu Hawliau yn gymuned lle mae hawliau plant yn cael eu haddysgu, eu dysgu, eu hymarfer, eu parchu, eu diogelu a’u hyrwyddo.

Ychwanegodd Frances Bestley, Cyfarwyddwr Rhaglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF:

“Mae’r plant yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel wedi dangos dealltwriaeth dda o’r Confensiwn a dealltwriaeth gref o’r byd ehangach. Mae’n wych gweld faint mae’r Confensiwn yn sail i waith a gwerthoedd yr ysgol, yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystod amser chwarae. Roedd yn wych gweld y brwdfrydedd y dangosodd y plant a’r staff i gyd am ddysgu am hawliau. Rydym yn falch iawn o ddyfarnu’r wobr Arian: Ymwybodol o Hawliau i Ysgol Gymraeg Brynsierfel ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith Parchu Hawliau gyda’r ysgol.”

Mae menter Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF UK wedi’i hanelu at ysgolion ledled y DU, gan gynnwys y rhai mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda bron i 5,000 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae ysgolion wedi gweld effaith gadarnhaol ar berthnasoedd, llesiant ac ymddygiad disgyblion drwy wella hunan-barch disgyblion, gan arwain at lai o driwantiaeth a bwlio, profiad dysgu gwell a gwell safonau academaidd.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page