Mae ffefrynnau ffermio o Instagram yn paru gyda Cyswllt Ffermio i drafod menywod sy’n sbarduno mentrau arallgyfeirio

“Pan ddes i’n ôl o Dubai, roeddwn i’n gwybod bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol ar y fferm nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu”. Dyma eiriau Angharad Williams, ffermwr pedwaredd genhedlaeth sy’n arwain menter arallgyfeirio fferm Dolau Ifan Ddu – The Bridgend Pumpkin Patch.

Gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o gwm De Cymru a thu hwnt, croesawodd y busnes casglu eich hun lu o ymwelwyr am yr ail flwyddyn yn olynol yn Hydref 2022.

 

Mae Angharad, lle gallwch chi ddod o hyd iddi trwy ei dolen Instagram @angwills, yn un o’r tair menyw a fydd yn siarad mewn digwyddiad arallgyfeirio a fydd yn canolbwyntio ar y rôl y mae menywod yn ei chwarae wrth yrru arallgyfeirio ar ffermydd yn ei flaen. Bydd y digwyddiad YouTube Live ‘Merched yn Mentro’ yn cael ei gynnal ar 31 Ionawr am 19:30.

Yn ymuno ag Angharad Williams i rannu ei phrofiad o ehangu o arferion ffermio cwbl draddodiadol ac ychwanegu gweithgareddau gwneud arian ychwanegol at y busnes fydd y dylanwadwr ffermio a seren Instagram, Zoë Colville.

Yn wyneb cyfarwydd i’w 40 mil o ddilynwyr ar Instagram, bydd Zoë, neu fel y mae’n cael ei hadnabod yn ehangach, The Chief Shepherdess, yn rhannu ei thaith o weithio fel triniwr gwallt yn Soho i fod yn ffermwr llawn amser a pherchennog busnes gan gynnwys The Little Farm Fridge – busnes cigyddiaeth ar y fferm sydd yn gwerthu bocsys cig ar-lein yn uniongyrchol o’r fferm i’r fforc.

Mae Zoë wedi casglu nifer dilynwyr helaeth ar gyfryngau cymdeithasol trwy ei hagwedd ddi-lol a’i natur agored i rannu gwersi bywyd a ddysgwyd trwy ffermio, mae Zoë yn sicr o ddod â dimensiwn gwahanol i drafodaethau’r panel.

Yn debyg i Angharad a Zoë, mae ein trydydd gwestai hefyd yn gwneud cyfraniad cryf i’r economi wledig ac yn bodloni blys melys ar hyd yr A40 rhwng Aberhonddu a Llandeilo. Sefydlodd Sophie Jones Truly Scrumptious, busnes pobi ac arlwyo o’i fferm enedigol, Aberbran Fach yn 2017 ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams.

Ers i Sophie adnabod angerdd o bobi ers yn ifanc iawn, datblygodd ei sgiliau arlwyo yn ystod ei blynyddoedd olaf yn yr ysgol a datblygodd wybodaeth am y diwydiant gan astudio gradd mewn Bwyd ac Astudiaethau Defnyddwyr. Wedi’i danio gan angerdd a gwybodaeth, mae Truly Scrumptious yn parhau i dyfu o nerth i nerth ac yn cyflawni archebion personol, yn ogystal â digwyddiadau a busnesau eraill. Cawn ddarganfod sut mae hi’n cyflawni hyn ynghyd a’i gwaith ar y fferm deuluol yn ystod y digwyddiad.

Am y tro cyntaf, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal fel YouTube Live ar sianel Cyswllt Ffermio @CyswlltFfermioFarmingConnect. Gyda’r platfform hwn yn prysur ddod yn lle ar gyfer cynnwys ffermio, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tanysgrifio i’r sianel i gael hysbysiadau am y datganiadau diweddaraf.

Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb, gan roi cyfle i fynychwyr a dilynwyr ofyn unrhyw gwestiynau pwysig i’r merched busnes beiddgar hyn.

Anogir unigolion i gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy wefan Cyswllt Ffermio i dderbyn cynnwys unigryw sydd ar gael cyn y digwyddiad. I gyflwyno cwestiynau ar gyfer y siaradwyr, cysylltwch â teleri.thomas@menterabusnes.co.uk.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page