Mae Alys Williams, mam o Sir Gaerfyrddin, ar fin ymgymryd ag un o heriau rhedeg anoddaf y DU i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ar 24 Hydref 2026, bydd Alys yn rhedeg Marathon Eryri, gan godi arian ar gyfer y Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol fel diolch am y gefnogaeth a gafodd yn ystod un o gyfnodau anoddaf ei bywyd.
Derbyniodd Alys gefnogaeth gan y tîm yn ystod ei beichiogrwydd ac ar ôl geni ei mab, Ioan.
Wrth sôn am ei her codi arian, dywedodd Alys: “Yn ystod fy meichiogrwydd gydag Ioan, fe fues i’n brwydro yn erbyn pryder ac, ar ôl iddo gael ei eni, profais iselder ôl-enedigol eithaf difrifol. Chefais i erioed y cyfle i brofi’r cyfnod hyfryd hwnnw o fod yn y ‘swigen babi’ y mae pawb yn sôn amdano. Yn hytrach, doeddwn i’n teimlo dim byd o gwbl.”
“Dyma oedd un o gyfnodau anoddaf fy mywyd. Roedd dyddiau pan na allwn weld ffordd ymlaen, ond roedd Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol Hywel Dda yno i mi bob cam o’r ffordd.”
“Fe wnaeth eu caredigrwydd, eu tosturi a’m cefnogi’n ddi-ildio fy helpu drwy fy eiliadau tywyllaf a rhoi’r nerth i mi wella. Nid yn unig y newidiodd y gofal a gawsom fy mywyd i, ond cafodd effaith gadarnhaol ar fy nheulu cyfan hefyd, a byddaf bob amser yn ddiolchgar am bopeth a wnaethant i ni.
“Nawr, rwyf am roi rhywbeth yn ôl. Byddaf yn rhedeg Marathon Eryri fel ffordd o ddiolch i’r tîm anhygoel hwn.”
“Bydd pob rhodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn helpu i gefnogi’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ar gyfer rhieni sy’n profi anawsterau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni babi.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Pob lwc enfawr a llongyfarchiadau i Alys am ymgymryd â’r her aruthrol hon! Rydych chi’n codi arian ar gyfer achos mor bwysig, ac ni allwn ddiolch digon i chi am eich ymroddiad, eich ymrwymiad a’ch cefnogaeth. Byddwn yn eich cefnogi a’ch annog ym mhob cam o’r daith.”
Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.
Gallwch gyfrannu at ymgyrch codi arian Alys yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/alys-bryantmarathoneryri
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.