Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Miliynau wedi cael eu talu i helpu teuluoedd i wresogi’u cartrefi

MAE mwy na £2 filiwn wedi’i dalu i filoedd o aelwydydd yn Abertawe yr wythnos diwethaf fel rhan o gynllun i helpu pobl i wresogi’u cartrefi.

Mae’r cynllun cymorth tanwydd a aeth yn fyw fore dydd Llun 26 Medi yn golygu bod hawl gan aelwydydd cymwys i hawlio taliad o £200.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Chwefror y flwyddyn nesaf ac mae gwybodaeth am gymhwyster a ffurflenni cais ar gael yn awr yn abertawe.gov.uk/cymorthtanwydd

Gall o leiaf 21,000 o aelwydydd yn Abertawe hawlio’r taliad i helpu i ddelio â chostau biliau tanwydd.

Mae dros 10,000 o’r aelwydydd hyn bellach wedi cael eu talu, gyda Swyddogion Cyngor Abertawe yn rhoi pob gewyn ar waith i dalu’r ymgeiswyr llwyddiannus mor gyflym â phosib.

Ariennir y cynllun – a aeth yn fyw ddydd Llun – gan Lywodraeth Cymru, a Chyngor Abertawe

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod llawer o deuluoedd yn Abertawe’n pryderu am sut y byddant yn gwresogi’u cartrefi a chael deupen llinyn ynghyd y gaeaf hwn, felly rydym yn gwneud popeth y gallwn i’w cefnogi.

“Derbyniom 13,000 o geisiadau am y cynllun cymorth tanwydd o fewn yr ychydig ddiwrnodau cyntaf o’r cynllun yn mynd yn fyw, gyda gwerth dros £2 filiwn o daliadau wedi’u gwneud bellach.

“Mae hyn er clod i staff y cyngor sy’n rhan o’r broses, sydd hefyd yn derbyn cannoedd o alwadau ffôn ac e-byst yn ddyddiol am y taliad hwn. Dyna pam y gofynnwn i breswylwyr am eu hamynedd wrth i’r timau weithio’n ddiflino i ateb cwestiynau a sicrhau y telir ymgeiswyr cymwys mor gyflym â phosib.

“Rydym yn ysgrifennu at yr holl aelwydydd rydym yn nodi’u bod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn yn ôl yr wybodaeth sydd gennym, ond gwyddwn y bydd pobl eraill sy’n gymwys hefyd.

“Dyna pam y byddem yn annog unrhyw un sy’n meddwl ei fod yn gymwys ond sydd heb dderbyn llythyr i fynd i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.”

Mae’r taliadau hyn yn ychwanegol at yr ad-daliad bil ynni sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU a thaliad tanwydd y gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r cyngor hefyd wedi bod yn prosesu miloedd o geisiadau munud olaf yr wythnos hon ar gyfer y taliad cymorth costau byw o £150.

Mae bron £11m wedi’i dalu bellach i dros 74,000 o aelwydydd yn Abertawe fel rhan o’r cynllun hwnnw, sydd bellach wedi cau ac sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gofynnir i breswylwyr nad oeddent yn gallu cael gafael ar y cyngor ynghylch y cynllun yr wythnos diwethaf gysylltu eto’r wythnos hon.

Mae rhagor o gyngor a chymorth i breswylwyr ynghylch costau byw ar gael yn abertawe.gov.uk/helpcostaubyw


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page