Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Openreach yn barod i ddod â rhwydwaith cyflym iawn i Bentywyn

Mae Openreach yn dechrau gwaith i adeiladu rhwydwaith band eang cyflym iawn newydd ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin – gan roi mynediad i drigolion a busnesau i fand eang sydd ymysg y cyflymaf a mwyaf dibynadwy sydd ar gael.

 

Yn adnabyddus am ei hanes cyfoethog a’i dirweddau syfrdanol, lle mae nifer o ymdrechion record Cyflymder y Byd dros Dir wedi digwydd dros y blynyddoedd, Pentywyn yw’r pentref diweddaraf yn Sir Gaerfyrddin i symud i gyflymder band eang yr ystyrir ei fod ymhlith y cyflymaf yn Ewrop.

 

Wedi’i wneud yn bosibl o ganlyniad i Gynllun Partneriaeth Cymunedol Ffibr Openreach, mae trigolion Pentywyn wedi gwneud cais am Dalebau Gigabit Llywodraeth DU am ddim sydd wedi cyfrannu at gost yr adeiladu. Mae bron i 70% o’r targed wedi’i gyflawni gan ganiatáu i beirianwyr ddechrau ar y gwaith. Disgwylir i’r band eang cyflym iawn gyrraedd y mwyafrif o gartrefi a busnesau lleol yn y misoedd nesaf.

 

Mae band eang ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn sy’n cynnig diogelwch yn y dyfodol; gyda llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd.

 

Gall pobl leol ymweld â www.openreach.co.uk/ultrafastfullfibre i gofrestru am ddiweddariadau ac, wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gwirio eu cyfeiriadau i weld pryd y mae gwasanaethau ar gael gan eu darparwyr dewisedig.

 

Gall trigolion ym Mhentywyn wneud cais o hyd am Dalebau Gigabit y Llywodraeth sydd am ddim, a fyddai’n cynyddu’r gronfa arian ymhellach fel bod y rhwydwaith ar gael i fwy o bobl yn yr ardal. Gallwch wirio a ydych yn gymwys a dewis eich taleb ar wefan Connect My Community.

 

Mae defnyddio’r talebau – nad ydynt yn costio dim i breswylwyr, yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi’i deilwra ac wedi’i ariannu ar y cyd.

 

Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach Cymru: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl sy’n byw a gweithio ym Mhentywyn, ac rydym ni’n hapus iawn i allu dod â’r holl fanteision sy’n perthyn i fand eang Ffibr Llawn cyflym iawn a dibynadwy iawn i’r gymuned.

 

“Mae ein rhaglen Partneriaeth Ffibr Cymunedol wedi golygu ein bod wedi gallu cynnwys miloedd o adeiladau ychwanegol ledled Cymru a gweddill y DU yn ein cynlluniau Ffibr Llawn. Ond mae ymestyn y rhwydwaith i’r lleoliadau anodd eu cyrraedd hyn dal yn heriol, sy’n golygu ei bod ond yn bosibl os yw pawb yn cydweithio -chi, eich cymdogion ac Openreach.

 

“Mae dal angen mwy o addewidion arnon ni ym Mhentywyn i sicrhau ein bod yn gallu mynd hyd yn oed ymhellach i’r eiddo sydd ar gyrion y pentre, felly rydym ni’n annog pobl i gymryd rhan a pheidio â cholli cyfle.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod dros Ward Talacharn:

 

“O adnabod y gymuned leol a deall ei rhwystredigaethau o ran cysylltedd band eang gwael, mae’r gwaith sydd wedi dechrau i wella hynny i’w groesawu’n fawr.

 

“Dylai fod gan ein cymunedau gwledig yr un mynediad â’n trefi, er mwyn cynnal eu cynhwysiant cymdeithasol, ac mae cael band eang da yn hanfodol i hynny. Mae’n wych bod trigolion wedi gallu gwneud cais am dalebau llywodraeth, gan sicrhau bod y gwaith gosod ddim yn golygu urhyw gostau iddyn nhw, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y manteision pan fydd y seilwaith yn fyw.”

 

Mae Openreach wedi nodi bod tua 25,000 o gartrefi a busnesau mewn tua 50 o gymunedau ledled Cymru yn gymwys i gael Ffibr llawn ac mae’n annog pobl leol i gymryd y cam nesaf drwy wneud cais am a chyfuno gyda’i gilydd Dalebau Gigabit y Llywodraeth sydd am ddim i helpu i ariannu’r gwaith adeiladu.

 

Os bydd digon o bobl yn cofrestru, byddant yn ymuno ag oddeutu 850, 000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru sydd eisoes â mynediad at fand eang ffibr llawn.

 

Mae cyllid drwy Gynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU a defnyddio technegau peirianneg arloesol, yn golygu bod band eang gwell bellach o fewn cyrraedd miloedd yn fwy o gymunedau anghysbell, gwledig ac arfordirol fel Pentywyn.

 

Pan fydd digon o bobl yn addo a dilysu eu talebau, bydd peirianwyr Openreach yn dechrau’r gwaith adeiladu. Gall hyn gymryd hyd at 12-18 mis, a gall rhai eiddo gael yr uwchraddiad cyn eraill.

 

Mae rhwydwaith ffibr llawn cyflym iawn newydd Openreach yng Nghymru bellach yn cyrraedd mwy na 850,000 o eiddo, ac mae’r cwmni’n bwriadu cyflwyno’r dechnoleg newydd i 25 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU erbyn diwedd 2026.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fanteision uwchraddio i fand eang Ffibr Llawn ar wefan Openreach.

 

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich band eang, cysylltwch â’ch Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol, Aled NIcholas: bandeang@sirgar.gov.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page