| Bydd disgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru yn cael mynediad at wersi nofio a diogelwch dŵr o dan raglen genedlaethol newydd sy’n cael ei lansio yr hydref hwn. |
| Bydd ‘Nofio Ysgol’ yn darparu o leiaf 20 gwers y flwyddyn i ddisgyblion Blynyddoedd 4 a 5, a fydd yn cynnwys hyder yn y dŵr, hunan-achub a chymhwysedd nofio sylfaenol.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n raddol dros dair blynedd, gyda hyd at naw awdurdod lleol yn dechrau ei chyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2026–27, gyda’r rhaglen ar waith yn llawn yn genedlaethol wedi’i gynllunio erbyn 2028–29. Yn ôl Nofio Cymru, a fydd yn darparu’r rhaglen ledled Cymru, cymerodd tua 66,000 o blant oedran cynradd ran mewn gwersi nofio ysgol ym mlwyddyn academaidd 2024-25, allan o 182,000 a oedd yn gymwys. O’r rheini, enillodd tua 26,000 Wobr Aur Nofio Ysgol, y safon ddisgwyliedig o gymhwysedd ym maes diogelwch dŵr. Bydd addysg diogelwch dŵr yn yr ystafell ddosbarth yn cyd-fynd â sesiynau yn y pwll, gan roi gwell dealltwriaeth i ddisgyblion o beryglon dŵr a phwysigrwydd bod yn ofalus. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £2m tuag at y rhaglen y flwyddyn ariannol hon. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu ysgolion i oresgyn rhwystrau i wersi nofio, gan gynnwys costau trafnidiaeth a hygyrchedd a chyfleusterau. Wrth siarad yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow, dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth: “Mae’r ffaith bod 21 o nofwyr o Gymru yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad eleni yn dangos ehangder talent ein tîm cenedlaethol. “Ond nid oes angen i bawb gyrraedd lefel ein hathletwyr elît. Mae nofio yn sgil bywyd pwysig sy’n helpu plant i gadw’n ddiogel ac yn magu eu hyder yn y dŵr ac o amgylch y dŵr. “Mae dechrau cyflwyno’r rhaglen hon yn un o ymrwymiadau 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth hon. Dw i’n falch iawn y bydd plant yn dechrau elwa o fis Medi ymlaen a dw i’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn cyrraedd pob ysgol yng Nghymru erbyn 2028.” Cyn Diwrnod Atal Boddi’r Byd ar 25 Gorffennaf, ychwanegodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan: “Mae’r rhaglen hon yn ymwneud â mwy na nofio. Mae’n ymwneud â magu hyder, cadw plant yn ddiogel o amgylch dŵr, a rhoi sylfaen i bob disgybl yng Nghymru ar gyfer bywyd egnïol ac iach. “Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu’r cyfle i ddysgu nofio, ni waeth lle maen nhw’n tyfu i fyny. Yn ogystal â hynny, efallai y byddant yn plymio i weithgaredd sy’n dod â llawenydd i lawer o bobl, ac sy’n wych ar gyfer eich iechyd a’ch lles hirdymor.” Dywedodd Fergus Feeney, Prif Weithredwr Nofio Cymru: “Mae heddiw’n foment nodedig i gampau dŵr ac addysg yng Nghymru. “Rydym yn hynod falch o bartneru â Llywodraeth Cymru i reoli a chyflwyno’r rhaglen genedlaethol hanfodol hon, drwy ein cysylltiadau sefydledig â phob un o’r 22 awdurdod lleol. “Mae nofio yn sgil sylfaenol sy’n datgloi oes o fanteision iechyd ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch. Mae ein tîm yn gwbl barod i reoli’r gwaith o ddydd i ddydd, olrhain cynnydd drwy brosesau casglu data trylwyr, a darparu rhaglen o’r radd flaenaf sy’n gwasanaethu pob cymuned ledled y wlad.” |
Rhaglen nofio a diogelwch dŵr i ysgolion yn cael ei chyflwyno o fis Medi