Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Sialens Ddarllen Haf 2023 – Ar eich marciau, Darllenwch

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion yn falch o gymryd rhan yn sialens ddarllen yr haf i blant, sef Ar eich marciau, Darllenwch.

 

Prif thema’r Sialens eleni yw gemau a chwaraeon, cadw’n heini, ac ymarfer y corff a’r meddwl. Bydd y Sialens yn dechrau ar ddydd Sadwrn 08 Gorffennaf 2023, ac yn parhau tan ddiwedd mis Medi.

 

Gall plant rhwng 4 ac 11 oed ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf trwy ymweld â’n llyfrgelloedd yng Ngheredigion, neu ar-lein trwy wefan y Sialens Ddarllen, gan ymuno â thîm anhygoel o ddarllenwyr ifanc ar draws y wlad sy’n cymryd rhan yn y Sialens eleni.

 

Trwy gymryd rhan yn Ar eich marciau, Darllenwch, bydd y plant yn derbyn deunydd am ddim o’r llyfrgell, ac yn cael eu hannog i gadw eu hymennydd a’u cyrff yn fywiog dros wyliau’r haf trwy ddatblygu sgiliau darllen, archwilio deunydd darllen newydd, darganfod diddordebau newydd, a chynnal a gwella eu hyder mewn darllen dros y gwyliau gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr ysgol ym mis Medi.

 

Eleni hefyd, mae Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion wedi cyffroi’n lân wrth gydweithio â Ceredigion Actif i ddarparu adnoddau chwaraeon i’w benthyca am ddim o’u llyfrgelloedd. Yn ogystal â beiciau balans a phecynnau chwarae, bydd modd i blant fenthyca offer tennis, rhaffau sgipio, offer criced a pheli basged, pêl-droed a rygbi o’u llyfrgell leol – a’r cyfan am ddim.

 

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’n wych gweld ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn rhan o sialens cenedlaethol – Ar eich marciau, darllenwch. Bydd y sialens yn dangos i bawb bod yna stôr dibendraw o lyfrau i ddifyrru plant a phobl ifanc dros yr haf ac i’w cadw yn y cysgod pan mae’r haul yn rhy danbaid o bosib. Dyma weithgaredd arall gan y Gwasanaeth sy’n darparu pob math o gyfleoedd i blant a phobl ifanc Ceredigion. Drwy’r llyfrgell leol cewch chi stoc anhygoel o lyfrau difyr i’w darllen ond hefyd mae digon o adnoddau chwaraeon a gemau i’w benthyg hefyd. Byddwn yn annog pob rhiant/gofalwr i ymweld â llyfrgell leol gyda’i blentyn i weld beth sydd ar gael i ddifyrru bob oed.”

Felly ymunwch â ni yn Llyfrgelloedd Ceredigion o 08 Gorffennaf ymlaen ar gyfer Ar eich marciau, Darllenwch i gael haf o hwyl heini.

 

Gallwch ddod o hyd i’ch Llyfrgell leol yma a chwilota am lyfr o’ch dewis ar-lein: https://libraries.ceredigion.gov.uk/client/cy_GB/cer_cy


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page