Cododd Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth £2,165.47 i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) a Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.
Cynhaliwyd y taith tractorau ar 3ydd Rhagfyr 2022. Dechreuodd dros 30 o dractorau, corach ar gefn beic a Siôn Corn yn ei sled y daith ym Mhontyberem a theithio o gwmpas pentrefi lleol cymuned Cwm Gwendraeth.
Dywedodd Anwen Davies, un o drefnwyr y digwyddiad: “Cawsom ein syfrdanu gan y gefnogaeth ar y noson, roedd nifer y bobl ar ochr y ffordd yn chwifio yn anhygoel!
“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd ac a helpodd i drefnu’r digwyddiad gan gynnwys y busnesau lleol a gefnogodd raglen y digwyddiad, Ysgol Pontyberem, y marsialiaid ac Anne ac Emily a gasglodd roddion ar hyd y daith.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Grŵp Taith Tractorau Cwm Gwendraeth am drefnu’r digwyddiad codi arian dros y Nadolig i gefnogi SCBU a Ward Cilgerran.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Josey Vaughan Hughes, Cynorthwyydd Cyfathrebu, drwy e-bost yn Josey.Vaughan-Hughes@wales.nhs.uk
neu drwy ffonio 07790 831735 / 01267 239815.
Nodiadau i Olygyddion
1. Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nod yr elusen yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbynnir gan gleifion, eu teuluoedd a chymunedau lleol yn disodli cyllid y GIG, ond fe’u defnyddir i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn codi ac yn dosbarthu arian i wella gwasanaethau GIG lleol trwy:
• Cynnig cysuron ychwanegol i gleifion i wneud yr amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus
• Darparu’r offer meddygol diweddaraf ar gyfer diagnosis a thriniaeth
• Creu amgylchoedd mwy croesawgar i gleifion, eu teuluoedd a staff
• Cefnogi dysgu a datblygiad staff a mentrau lles
• Gwella gofal yn ein cymunedau lleol
• Ariannu prosiectau ymchwil i wella ein dealltwriaeth o driniaethau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg
• Cyflwyno mentrau byw’n iach a hybu iechyd.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk
