Timau’r bwrdd iechyd i groesawu ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol

P’un a ydych chi’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol i fwynhau’r cystadlaethau, i gwrdd â theulu a ffrindiau, neu i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant Cymraeg, cewch groeso cynnes ym mhabell Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd y bwrdd iechyd ar stondin 103 ar y Maes drwy gydol yr ŵyl yn Llantwd, Gogledd Sir Benfro, rhwng 1 ac 8 Awst 2026.

Bydd timau o bob rhan o Hywel Dda wrth law drwy gydol yr wythnos i arddangos gwasanaethau iechyd lleol, cymorth lles, cyfleoedd gwirfoddoli a gyrfaoedd yn y GIG. Gall ymwelwyr gwrdd â staff o amrywiaeth o wasanaethau, gofyn cwestiynau, casglu gwybodaeth ac adnoddau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau i bob oed.

Mae rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos yn cynnig cipolwg ar y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir ar draws Hywel Dda.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwiriadau pwysedd gwaed am ddim drwy gydol yr wythnos, ochr yn ochr â chyfleoedd i archwilio gyrfaoedd mewn iechyd a gofal, cymryd rhan mewn Amser Stori a gweithgareddau synhwyraidd, profi technoleg realiti rhithwir a chael mynediad at gyngor a gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau iechyd. Mae digwyddiadau wedi’u trefnu yn cynnwys:

  • Dydd Sadwrn 1 Awst, 10.30am: Sesiwn Clocs Ffit gyda Tudur Phillips
  • Dydd Llun 3 Awst 11.30am:  Cyflwyniad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gynllun newydd i fydwragedd
  • Dydd Llun 3 Awst, 1.30pm: Cyflwyniad ymchwil ar y Gymraeg mewn gwasanaethau optegol
  • Dydd Mawrth 4 Awst, 10.30am: Sesiwn celf gydag Orielodl
  • Dydd Mawrth 4 Awst, 11.00am: Trafodaeth ar yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol gyda llysgenhadon Gofalwn Cymru
  • Dydd Mercher 5 Awst, 10.30am a 3.00pm: Sesiynau ioga sedd
  • Dydd Mercher 5 Awst, 11.00am: Trafodaeth ar gydnabod a defnyddio sgiliau iaith Gymraeg ym maes gofal cymdeithasol
  • Dydd Mercher 5 Awst, 12.30pm: Lansio cynllun newydd Coleg Meddygol Prifysgol Abertawe gan Dr Llinos Roberts
  • Dydd Iau 6 Awst, 1.30pm: Panel siarad ar sut mae technoleg ddigidol yn newid y GIG
  • Dydd Iau 6 Awst, 2.00pm: Lansio Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Dydd Iau 6 Awst, 2.30pm: Ymweliad llenyddol gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood
  • Dydd Gwener 7 Awst, 11.30am:  Ysbrydoli Arloesi: Panel siarad Menywod yn arwain y ffordd yng Nghymru, gan Gwyddorau Bywyd Cymru
  • Dydd Gwener 7 Awst, 1.30pm: Bord Gron Llais a Mwy na Geiriau -rhannu Egwyddorion y Bobl a sut y gellir eu defnyddio i lunio system iechyd a gofal cymdeithasol tecach, mwy hygyrch i bawb yng Nghymru -Mabon ap Gwynfor, Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ymuno â’r drafodaeth

Dywedodd Alwena Hughes Moakes, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu: “Mae rhywbeth arbennig iawn am groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’n cymuned ni ein hunain, ac rydym yn gyffrous i fod yn rhan ohoni unwaith eto eleni. Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o ddiwylliant, iaith a chymuned Cymru, ac rydym yn falch o groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i’n rhan ni o’r byd.”

Mae’r Maes bob amser yn llawn sgyrsiau, cyfeillgarwch a syniadau newydd, felly rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â hen ffrindiau, gwneud cysylltiadau newydd a rhannu peth o’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws ardal ein bwrdd iechyd.

P’un a ydych chi am ddysgu mwy am y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu i aros yn iach ac yn llesol, cael gwybod sut rydym yn llunio gofal iechyd ar gyfer y dyfodol, archwilio gyrfa yn y GIG, neu ddarganfod cyfleoedd i wirfoddoli a gwneud gwahaniaeth yn eich cymunedau lleol, mae rhywbeth i bawb ar ein stondin.

I’r rhai na allant fynychu’r Eisteddfod, bydd diweddariadau, ffotograffau ac uchafbwyntiau o’r wythnos yn cael eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd.

Dilynwch y diweddariadau drwy gydol yr wythnos ar Facebook ac Instagram gan ddefnyddio #HywelArYMaes a #Steddfod2026, neu chwiliwch am Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

You cannot copy any content of this page