Trefnodd Ifan Evans a Prys Lewis daith beiciau cwad a chodwyd £2,635 i Ward Gwenllian, Ward Mamolaeth Ysbyty Bronglais.

Dechreuodd y daith, a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2024, ym Mhontarfynach yn Aberystwyth a theithiodd dros Fynyddoedd Cambria i Gwmystwyth ac allan i Ffair Rhos cyn troi yn ôl am Bontarfynach.

 

Dywedodd Ifan: “Mae’r daith feiciau cwad yn ddigwyddiad blynyddol, rydyn ni’n hoffi dewis gwahanol elusennau lleol i’w cefnogi bob blwyddyn. Roedd yn daith o 35 milltir gyda thywydd gwych a golygfeydd gwych.

 

“Roedd yn ddiwrnod gwych gyda nifer anhygoel yn bresennol. Mentrodd dros 120 o feiciau cwad allan a dychwelodd pob un yn ddiogel.

 

“Cawsom gefnogaeth wych gan bobl leol a phobl ymhellach i ffwrdd gyda chefnogaeth wych gan fusnesau lleol yn ogystal â’r tirfeddianwyr, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr iawn. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at daith y flwyddyn nesaf.

“Gyda chwech o blant rhyngddon ni, rydyn ni’n gwybod yn iawn pa mor galed mae’r staff mamolaeth yn gweithio, roedd yn gyfle gwych i roi rhywbeth bach yn ôl iddyn nhw.”

 

Dywedodd Emma Booth, Bydwraig Arweiniol Clinigol a Gweithredol: “Fel tîm rydym yn hynod ddiolchgar i Ifan a Prys am drefnu’r digwyddiad codi arian a chasglu swm gwych o arian ar gyfer Ward Gwenllian.

 

“Bydd y rhodd hon yn cael ei defnyddio i wella profiad y rhai sy’n rhoi genedigaeth yma ym Mronglais. Mae’r arian a godir ar gyfer y ward famolaeth yn ein helpu i ddarparu cysuron ychwanegol i famau a’u babanod sydd y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn ei ddarparu’n safonol.

 

“Mae wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan o daith geni Ifan a Gwawr a bydd y rhodd hon yn ein helpu i roi’r profiad gorau posib i ferched a babanod wrth ddefnyddio ein gwasanaeth.”

 

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ifan a Prys am wneud ymdrech mor wych i godi arian i Ward Gwenllian.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

You cannot copy any content of this page