Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Wythnos Llyfrgelloedd – ymunwch a manteisiwch ar gynigion ym Mharc Gwledig Pen-bre

BYDD trigolion sy’n cofrestru gyda llyfrgell yn Sir Gaerfyrddin rhwng 3 a 9 Hydref yn derbyn mwy na llyfrau yn unig!

Fel rhan o ‘Wythnos Llyfrgelloedd’ (3-9 Hydref), bydd unrhyw un sy’n ymuno â llyfrgell yn ystod y cyfnod hwn yn gallu dewis un o’r cynigion canlynol ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Tocyn diwrnod am ddim (parcio) i Ben-bre

Reidiau Tabogan, prynu 1 a chael 1 am ddim

Gostyngiad o 25% ar Golff Giamocs

Gostyngiad o 25% ar Wers sgïo i’r teulu

Gostyngiad o 25% ar Lain Wersylla heb drydan (hyd at 4 Tachwedd, 2022)

*Mae pob cynnig yn para tan 31 Rhagfyr, 2022.

Mae am ddim ac yn hawdd ymuno – ewch i unrhyw un o lyfrgelloedd y sir rhwng 3 a 9 Hydref i gofrestru. Mae angen prawf adnabod i ddod yn aelod llawn. Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrgell agosaf drwy fynd i https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/llyfrgelloedd-ac-archifau/

Neu gallwch gofrestru yn un o’r mannau cofrestru isod:

1 Hydref – Tesco, Caerfyrddin rhwng 2pm a 5pm

6 Hydref – Morrisons, Caerfyrddin rhwng 10am a 2pm

6 Hydref – Tesco, Rhydaman rhwng 10am a 1pm

7 Hydref – Morrisons, Llanelli rhwng 9am a 12pm


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page