Ymdrech godi arian Mis Tashwedd yn anelu at roi rhywbeth yn ôl i dîm wroleg Glangwili

Mae Aiden Lee Aston-Murray wedi gosod her iddo’i hun i dyfu mwstas ar gyfer mis Tashwedd mewn ymgais i godi £1,000 ar gyfer achos sy’n agos at ei galon.

Mae Aiden, 21 oed, o Cross Hands, yn astudio ar gyfer Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Nyrsio ac yn gwirfoddoli fel Ymatebydd Cyntaf Cymunedol gyda GoodSAM. Penderfynodd godi arian ar gyfer y Ward Wroleg yn Ysbyty Glangwili ar ôl derbyn triniaeth frys ar y ward ym mis Hydref.

Dywedodd Aiden: “Ychydig cyn fy mhen-blwydd, profais yn uniongyrchol y gofal rhagorol, y proffesiynoldeb a’r tosturi a ddangoswyd gan y tîm wroleg.

“Gwnaeth cyflymder ac effeithiolrwydd y driniaeth a gefais wahaniaeth sylweddol i mi, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gofal a ddarparwyd. Roedd y cyflwr yn annisgwyl iawn, ond ni allwn fod yn fwy diolchgar i’r tîm cyfan yn yr ysbyty, a wnaeth benderfyniad cyflym ac effeithiol i gynnal y llawdriniaeth hon.

“Mae’r tîm Wroleg yn parhau i fy nhrin ac maent wedi rhoi’r cyfle gorau i mi gael bywyd hapusach ac iachach.

“Fel Ymatebydd Cyntaf Cymunedol a myfyriwr, rwy’n deall pwysigrwydd gofal iechyd amserol o ansawdd uchel, a’r gwahaniaeth y gall gweithwyr gofal iechyd ymroddedig ei wneud i gleifion a’u teuluoedd. Mae’r ymdrech hon i godi arian yn ffordd i mi ddiolch i’r ward a ofalodd amdanaf, ac i helpu i gefnogi’r gwaith rhagorol y maent yn parhau i’w wneud dros eraill.

“Mae fy mhrofiadau, wrth wirfoddoli ym maes gofal iechyd ac fel claf, wedi rhoi gwerthfawrogiad dwfn i mi o’r ymroddiad, y sgil a’r tosturi a ddangosir gan staff y GIG bob dydd; dyna pam mae cefnogi Ysbyty Glangwili yn golygu cymaint i mi.

“Bydd pob rhodd, boed yn fawr neu’n fach, yn fy helpu i gyrraedd fy nod ac yn dangos gwerthfawrogiad am y gofal a ddarperir gan y tîm yn Ysbyty Glangwili.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Aiden am neilltuo ei ymdrech codi arian i’r tîm wroleg.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Bydd yr ymdrech codi arian gan Aiden yn parhau tan ddiwedd mis Rhagfyr; gallwch gyfrannu yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/aiden-murray

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.

Llun: Elusennau Hywel Dda

You cannot copy any content of this page