Partneriaeth â Llywodraeth Cymru’n datblygu swyddfeydd newydd yng Nghross Hands

Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun i adeiladu swyddfeydd newydd o’r ansawdd uchaf yng Nghross Hands, fydd yn helpu i greu swyddi newydd yn yr ardal, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi grant Datblygu Eiddo o £492,000 i Sterling Developments, cwmni lleol, i’w helpu i ddarparu swyddfeydd masnachol ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands.

Mae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands wedi’i ddarparu drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’n cynnwys rhaglen fawr o waith seilwaith. Mae cyfanswm o 17 o blotiau datblygu masnachol wedi’u creu i’w gwerthu, gyda sawl plot eisoes wedi’u gwerthu. Caiff ei ddarparu mewn dau gam. Mae’r ail gam wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad o £2.4 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol, bydd y swyddfeydd yn cyfrannu hefyd at uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o ofod masnachol parod i fusnesau, i helpu i greu swyddi newydd mewn cymunedau ledled y wlad.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae angen safleoedd ac eiddo modern ar fusnesau o bob maint ar draws Cymru er mwyn gallu ehangu a thyfu. Mae hyn yn rhan allweddol o’n Cynllun Gweithredu Economaidd, ein gweledigaeth ar gyfer twf cynhwysol sydd wedi’i adeiladu ar sylfeini cryf, diwydiannau blaengar ar gyfer y dyfodol a rhanbarthau cynhyrchiol.

Bydd cyhoeddiad heddiw yn ein helpu i wneud hynny, gan roi hwb i economi ranbarthol y De-orllewin wrth i ni i gyd barhau i adfer o’r pandemig.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o bartneriaeth adeiladol sy’n gweithredu er budd pobl leol. Rwy’n dymuno’n dda i Sterling Developments gyda’u cynllun newydd yng Nghross Hands.”

Meddai y Cyng Gareth John, Aelod o’r Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleusterau gorau, yn y lleoliadau gorau, i fusnesau, er mwyn iddynt allu ffynnu. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, drwy Gyd-fenter Cross Hands, i sicrhau £2.4 miliwn o gyllid yr UE i gyfateb i’n cyfraniad ni o £2.5 miliwn ac i ddatblygu ail gam cynllun Dwyrain Cross Hands, safle cyflogaeth 19 hectar sy’n darparu plotiau gwasanaethu mewn amgylchedd busnes ffyniannus.

Mae’r datblygiad eisoes wedi denu busnesau newydd i ffynnu gyda photensial i’r safle greu cannoedd o swyddi o ansawdd. Bydd yr ail gam hwn o gynllun Dwyrain Cross Hands yn sicrhau twf economaidd mwy cynaliadwy a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl, busnesau a chymunedau yn yr ardal a’r rhanbarth ehangach.

Mae’r Grant Datblygu Eiddo a roddwyd i Sterling Developments gan Gyngor Sir Gâr yn ysgogi’r sector preifat i fuddsoddi yn y safle cyflogaeth a bydd yn darparu gofod masnachol o ansawdd uchel i’r farchnad.”

Ychwanegodd Simon Thomas, Cyfarwyddwr Sterling Developments:

“Rydym wedi cynllunio adeilad sy’n ddeniadol o safbwynt pensaernïol ac a fydd yn cyflenwi gofod swyddfa o ansawdd uchel yng Nghross Hands. Bydd yr adeilad newydd yn darparu’r cyfleusterau modern sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu a ffynnu. Mae’r gefnogaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i’r cynllun hwn. Mae Sterling Developments yn falch iawn o gael chwarae eu rhan yn natblygiad y safle cyflogaeth ardderchog hwn yng Nghross Hands.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page