Ymgyrch i wella ymddygiad disgyblion ysgolion uwchradd Sir Gâr
GWELIR ymgyrch ar waith ar hyn o bryd yn Sir Gâr i wella ymddygiad disgyblion ysgolion uwchradd y sir. Mae’r ymdrech yn un ar y cyd rhwng y Cyngor a C.A.S.H – Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd y Sir. [1] Ar hyd a lled Cymru, mae niferoedd o athrawon yn tystio i enghreifftiau o’r un dirywiad yn ymddygiad rhai disgyblion ers dychwelyd i addysg ffurfiol wedi cyfnodau clo’r pandemig. Mae’r ymddygiad yn gallu bod ar ffurf defnyddio iaith sarhaus gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon; bod yn anystywallt mewn gwersi; anweddu (vaping) mewn toiledau adeg gwersi ac amryw o enghreifftiau eraill. Mynychodd disgyblion ac athrawon POB UN o ysgolion y Sir sesiwn rhannu profiad yn Neuadd y Sir ym mis Gorffennaf. Cafodd trawstoriad o sylwadau eu recordio a’u defnyddio i greu fideo sy’n ran o’r ymgyrch. Bydd y fideo’n cael ei ddangos ymhob un o Ysgolion Uwchradd Sir Gâr ym mis Medi ac yn cael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gwybodaeth ar bosteri a baneri’r ymgyrch yn cyfeirio disgyblion at ffynonellau lle gallan nhw gael cyngor pellach am bwysigrwydd gwella ymddygiad. Dyma rhai o’r sylwadau mae disgyblion Sir Gâr yn eu lleisio mewn ymgyrch sy’n anelu at wella ymddygiad yn Ysgolion Uwchradd yr awdurdod. “Mae ymddygiad gwael wedi mynd yn arferol.” “Mae grwp bach o ddisgyblion yn gallu effeithio ar ysgol gyfan.” “Ma’ rhai…
