Pennaeth yn derbyn MBE gan y Tywysog William

MAE prifathro ysgol gynradd yn Abertawe wedi bod i Balas Buckingham y mis hwn i dderbyn MBE gan y Tywysog William.

Cyflwynwyd y wobr i Alison Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Craigfelen ers 11 o flynyddoedd, am ei gwasanaethau i addysg a’r gymuned.

Yn ystod ei chyfnod fel pennaeth mae wedi arwain yr ysgol at ganlyniadau arolwg ‘rhagorol’ gan Estyn yn ogystal ag ysgrifennu dwy astudiaeth achos arfer gorau.

width=

Mae ei hangerdd dros addysg fenter wedi sicrhau bod hyn wrth wraidd cwricwlwm yr ysgol ac mae wedi lledaenu i ysgolion eraill.

Mae hi wedi arwain prosiect llwyddiannus iawn Menter Abertawe, gyda thros 40 o ysgolion yn cymryd rhan eleni mewn digwyddiad lle meddiannwyd Gerddi’r Castell ar gyfer digwyddiad marchnad fenter.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, “Hoffwn longyfarch Alison ar dderbyn y wobr hon.

“Mae Ysgol Craigfelen yn ysgol wych ac rwy’n siŵr bod pawb sy’n gysylltiedig â hi’n falch iawn o Alison.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page