Cyngor Sir Gar yn addo £80,000 i Eisteddfod yr Urdd 2023

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi addo £80,000 i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sy’n cael ei chynnal yn Llanymddyfri’r flwyddyn nesaf.

Mae’r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cyllideb o £100,000 i dalu am unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol yn gysylltiedig â’r digwyddiad sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Er mai dyma fydd yr wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir Gâr, dyma’r tro cyntaf i Lanymddyfri groesawu’r ŵyl.

Fel un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, caiff ei chynnal dros Ŵyl Banc y Gwanwyn, rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. Mae’n denu oddeutu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn hanesyddol mae’n cyfrannu hyd at £6 miliwn i economi leol y sir sy’n ei chynnal, gyda’r diwydiant lletygarwch yn elwa’n fawr iawn.

Disgwylir y bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu fel rhai sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol yr Eisteddfod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ôl i Sir Gâr yn 2023 ac i ddangos ein cefnogaeth drwy’r cyfraniad ariannol hwn o £80,000.

“Er mwyn sicrhau bod Eisteddfod 2023 yn ddigwyddiad llwyddiannus, mae’n bwysig ein bod ni, fel y sir sy’n ei chynnal, a’r Urdd yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod y profiad gorau posib yn cael ei roi i blant, pobl ifanc a thrigolion Sir Gâr.

“Bydd Eisteddfod yr Urdd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y Gymraeg yn y sir a bydd yn adlewyrchu’r ymrwymiad i gefnogi’r dyhead o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym ni’n disgwyl ymlaen yn eiddgar i groesawi Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr y flwyddyn nesaf ac rydym yn mawr obeithio y bydd pob ysgol yn Sir Gâr yn cymryd rhan, mewn rhyw ffordd.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page