Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Grant i adnewyddu pwll nofio cymunedol yn Aberteifi

Mae Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi wedi derbyn Grant Cyfalaf i wneud gwaith adnewyddu mawr ei angen.

 

Cafodd Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, gwerth £207,000, gan Lywodraeth Cymru ei sicrhau gan Gyngor Sir Ceredigion i gyllido gwaith cyfalaf hanfodol yn y pwll nofio.

 

Bydd y grant yn galluogi’r Pwll Nofio i uwchraddio Cyfarpar y Pwll a’r Uned Drin Aer, insiwleiddio’r to uwchben pwll y plant a phrynu gorchuddion pwll newydd.

 

Dywedodd Matt Newland, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi: “Mae ymddiriedolwyr y pwll a’r neuadd yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael grant gan Chwaraeon Cymru i gyflawni gwaith mawr ei angen i’r pwll er mwyn iddo barhau i weithredu. Hoffai’r ymddiriedolwyr ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion am eu cymorth. Mae Pwll Nofio a Neuadd Aberteifi yn cael ei redeg gan bwyllgor yr ymddiriedolwyr er budd y gymuned. Mae’n adnodd hanfodol a bydd y grant hwn yn helpu i sicrhau ein dyfodol.”

 

Croesawodd Katie Proven newyddion, sef rheolwr newydd ei benodi y ganolfan: “Bydd y buddsoddiad yn ein helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd mawr eu hangen, lleihau ein costau ynni a’n hôl-troed amgylcheddol. Mae hwn yn newyddion rhagorol ar gyfer pobl Aberteifi.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M.S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid: “Mae cyfleusterau hamdden Ceredigion sy’n cael eu cynnal gan y gymuned yn rhan bwysig o gynnig cyfleoedd i’n trigolion i fod yn egnïol ac i gael hwyl boed fel teulu, grŵp o ffrindiau neu’n unigolion. Trwy weithio gyda’n gilydd, mae’r Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi a’r Cyngor wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol a fydd yn galluogi’r pwll i barhau i gyfrannu at wella iechyd a lles pobl y sir.”

 

Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: https://cyngor.ceredigion.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=148&MId=291&LLL=1


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page