Mae cynghorau Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr yn talu £105,589.29 rhyngddyn nhw mewn ffioedd i Ystâd y Goron bob blwyddyn er mwyn caniatáu mynediad y cyhoedd i’w dir, yn ôl data newydd.
Datgelwyd y ffigwr trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth gan swyddfa Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Yn ôl Mr. Campbell, mae’r wybodaeth yn atgyfnerthu galwad ei blaid am ddatganoli cyfrifoldeb dros Ystâd y Goron i Gymru.
Ar hyn o bryd, mae’r arian yn cael ei dderbyn a’i drin gan Drysorlys y Deyrnas Unedig ar ran y teulu brenhinol.
Mewn cwestiwn i Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, 19 Chwefror), holodd Cefin Campbell AS:
“Rydym mewn cyfnod lle mae ein hawdurdodau lleol – yn wyneb heriau’r argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol – wrthi’n ystyried toriadau i wasanaethau cyhoeddus er mwyn osgoi diffygion yn eu cyllidebau. Yn achos Ceredigion, mae’r cyngor yn wynebu tua £5 miliwn o ddiffyg, ac yn ystyried codi treth cyngor o hyd at 14%.
“Ydych chi’n cytuno gyda mi a fy nghyfoedion ym Mhlaid Cymru, felly, ei bod hi’n amhosib cyfiawnhau’r ffaith bod cynghorau de-orllewin Cymru yn anfon dros £100,000 dros y ffin i Drysorlys Prydain a’r teulu brenhinol bob blwyddyn, a dylid dechrau’r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb dros y Ystâd y Goron i Gymru ddechrau cyn gynted â phosibl?”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.