Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg National News

46 drenau a system giwio yn eu lle cyn gêm Rygbi

Mae Great Western Railway yn atgoffa cefnogwyr rygbi y bydd y trenau’n brysur iawn yn union cyn ac ar ôl gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ar ddydd Sadwrn, ac y bydd system giwio ar waith i helpu pobl i gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae’r cwmni’n darparu 46 o drenau i ac o orsaf Caerdydd Canolog ar gyfer yr ornest, y mae disgwyl brwd amdani, yn Stadiwm Principality (1430).

Atgoffir cefnogwyr sy’n teithio rhwng Llundain a Chaerdydd bod gwaith peirianyddol yn golygu y bydd gwasanaethau’n mynd ar lwybr wedi’i ddargyfeirio drwy’r dydd, ac y bydd y daith yn cymryd 30 munud yn hirach.

Bydd GWR yn rhedeg 29 o drenau i Gaerdydd Canolog cyn y gêm, ac y bydd 17 o drenau eraill yn mynd â chefnogwyr adref.

Rugby fans arriving at Cardiff Central Railway Station before Wales v England Six Nations match .25/02/2023

Gan ddefnyddio’r system oedd ar waith ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad, gofynnir i gefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain tuag at Gasnewydd ar ôl y gêm i giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym maes parcio Glan yr Afon.

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Gweithrediadau GWR:

Rydym yn falch i gynnig rhywfaint o wasanaethau ychwanegol fel y gall pobl ymweld â Chaerdydd /dod i Gaerdydd a chael taith gyfforddus, ond bydd y trenau’n brysur iawn yn y cyfnod cyn dechrau’r gêm a’r cyfnod yn syth wedyn. Er mwyn osgoi’r ciw/iau, efallai yr hoffech aros i fwynhau’r awyrgylch yn y ddinas wych hon cyn mynd am adref.

“Gwiriwch yr amserau teithio ac os oes angen ichi fynd /ymadael yn syth ar ôl y gêm, cofiwch ganiatáu digon o amser i giwio a mynd ar y trên yn ddiogel.”

Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Cynllunio Trenau Trafnidiaeth Cymru:

“Byddwn yn ychwanegu capasiti lle bo modd ond disgwylir y bydd gwasanaethau i ac o Gaerdydd yn union cyn ac ar ôl y gêm yn brysur, felly dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith.

“Ar ôl y gêm bydd ein system giwio arferol ar waith a bydd digon o wasanaethau /drenau ar gael. Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid ymlaen llaw am fod yn amyneddgar/am eu hamynedd gyda’u cyd-gefnogwyr a’n staff wrth inni sicrhau bod pawb yn mynd/cyrraedd adref yn ddiogel.”

I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith, ewch i GWR.com


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page