Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Teulu yn codi dros £9,000 ar gyfer uned cemo

Mae teulu Alun Rees Thomas, perchennog A&B Tool Hire, wedi codi £9,245 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip er cof amdano.

Yn anffodus bu farw Alun ar 30 Medi 2024 ar ôl brwydr hir gyda chanser.

Cododd teulu Alun yr arian drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian megis raffl yn Sioe Frenhinol Cymru, rhoddion angladd a’u taith tractorau blynyddol a gynhaliwyd yr wythnos ar ôl iddo farw.

Dywedodd Lynwen Jones, merch Alun: “Dymuniad olaf Alun oedd i’w daith tractorau blynyddol barhau o’i gartref, Bryndolau, Ffarmers, Llanwrda ar ddydd Sul 6ed Hydref 2024.

“Fel teulu, roedden ni wedi ein syfrdanu gyda’r gefnogaeth a ddangoswyd. Daeth dros 170 o dractorau i gymryd rhan yn y daith a llawer o genfnogwyr yn cefnogi’r digwyddiad er cof am Alun.

“Er ein bod ni’n gwybod fel teulu am ddyn busnes llwyddiannus oedd ein tad a’n gŵr cariadus, roedd y swm a godwyd yn dyst i ba mor boblogaidd a hoffus oedd e mewn gwirionedd. Mae wedi rhoi cysur mawr inni weld y rhoddion a godwyd ac i allu bodloni dymuniad olaf Alun i allu cyflwyno’r sieciau hyn i elusennau mor anhygoel a fu’n gymorth iddo drwy gydol ei ddyddiau olaf.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn arbennig iawn i deulu Alun am godi swm mor anhygoel er cof amdano.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page