| Wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol, mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa i edrych a ydynt yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol, sy’n helpu dysgwyr gyda chostau gwisg ysgol. |
| Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael rhwng £125 a £200 y dysgwr i helpu â chostau gwisg ysgol, yr offer sy’n hanfodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth megis deunyddiau ysgrifennu a bagiau, a dillad ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi.
Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn gwahodd ceisiadau nawr ac mae’n cefnogi teuluoedd â phlant o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11, sydd ar incwm is ac sy’n cael budd-daliadau penodol.
Mae’r grant yn darparu £125 y dysgwr, a £200 i ddysgwyr sy’n dechrau ym mlwyddyn 7 er mwyn helpu â’r costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau mewn ysgol uwchradd. Gall teuluoedd edrych i weld a ydynt yn gymwys a gwneud cais trwy’r awdurdod lleol lle mae eu plentyn yn mynd i’r ysgol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Hawliwch help gyda chostau ysgol| LLYW. CYMRU
Yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd, mae pob cais llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid llawn sydd ar gael i gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm is.
Gall rhieni a gofalwyr hawlio unwaith fesul plentyn fesul blwyddyn ysgol.
Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda –
|
Teuluoedd Cymwys yn Gallu Cofrestru i gael Cymorth â Chostau Gwisg Ysgol