Prentis o Gymru yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth sgiliau fyd-eang

Mae gwersyll hyfforddi sgiliau yn cael ei gynnal yng Ngholeg Sir Gâr ar hyn o bryd i baratoi prentisiaid ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai ym mis Medi.

Mae’r gwersyll hyfforddi yn rhan o raglen baratoi ddwys WorldSkills UK ar gyfer y gystadleuaeth, lle bydd chwe chystadleuydd yn cynrychioli Cymru ar Dîm y DU. Mae Madeleine Warburton, un o’r aelodau a ddewiswyd, yn cwblhau prentisiaeth Lefel 4 mewn ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd.

Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cynnig cyfle i unigolion ennill profiad ymarferol gwerthfawr wrth weithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae prentisiaethau hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi economi Cymru, gan helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau mewn sectorau â blaenoriaeth a sicrhau bod gan gyflogwyr fynediad at weithlu medrus ar gyfer y dyfodol.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, â’r gwersyll i weld yr hyfforddiant ar waith ac i siarad â Madeleine a phrentisiaid eraill sy’n cymryd rhan.

Dywedodd Madeleine:

“Rydw i wastad yn cael cymaint o fudd o’r gwersylloedd hyfforddi. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gwneud llawer o waith yn mireinio fy sgiliau technegol, ond rydw i wedi gweld bod y sgiliau meddal rwy’n eu datblygu trwy’r profiadau hyn yr un mor werthfawr. Mae’r cyfle i gwrdd ag unigolion brwdfrydig eraill, o feddwl tebyg ond o wahanol ddiwydiannau, wedi bod yn hynod ysbrydoledig. Ynni adnewyddadwy yw fy maes sgiliau i, ond mae wedi bod yn ddiddorol cwrdd â phobl sy’n wych yn eu meysydd gwahanol, fel gwasanaeth bwyty, a gweld eu hangerdd a’u hymrwymiad i’w crefft. Mae’n codi eich ysbryd ac yn eich atgoffa bod pawb yn ymdrechu i ragori yn eu ffordd eu hunain.

“Rwy’n ffodus i gael cyflogwr cefnogol iawn trwy gydol fy mhrentisiaeth, ac mae fy hyder a’m gallu i weithio o dan bwysau wedi tyfu’n sylweddol o ganlyniad. Mae’r gwersylloedd hyfforddi a’r cystadlaethau wedi darparu amgylchedd diogel i herio fy hun, gwneud camgymeriadau, dysgu oddi wrthynt, a dod â’r profiadau hynny yn ôl i’m rôl bob dydd. Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sy’n dod nesaf – ac ychydig yn nerfus. Ond mae’r teimladau hynny’n mynd law yn llaw â thwf. Mae’r tair blynedd diwethaf o ddatblygu trwy gystadlaethau a’r rhaglen ehangach wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd maen nhw wedi’u rhoi imi.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae wedi bod yn wych cael ymweld â Choleg Sir Gâr heddiw a gweld ymroddiad a thalent Madeleine a phawb arall sy’n cymryd rhan yn y gwersyll hyfforddi hwn. Mae taith Madeleine o fod yn brentis i gystadlu gyda Thîm y DU yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy waith caled a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy ein system sgiliau yng Nghymru.

“Rwy’n arbennig o falch y bydd chwe chystadleuydd yn cynrychioli Cymru yn Shanghai, sy’n dros 20% o Dîm y DU. Maen nhw’n dod o raglenni prentisiaeth, colegau a phrifysgolion, sy’n dangos cryfder y gwahanol lwybrau sydd ar gael i bobl yng Nghymru a’r sgiliau o’r radd flaenaf sy’n cael eu datblygu ar draws ein system addysg a hyfforddiant.

“Rwy’n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli mwy o bobl ledled Cymru i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt a cheisio gwireddu eu huchelgeisiau.”

You cannot copy any content of this page