Tri safle ysbyty posib ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

BWRDD Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori â’r cyhoedd ar dri safle posibl, dau yn ardal Hendy-gwyn ar Daf ac un yn Sanclêr, ar gyfer ysbyty gofal brys a chynlluniedig newydd fel rhan o’i strategaeth ehangach i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Cyflwynodd y bwrdd iechyd gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, yn gynharach eleni, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3 biliwn mewn iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus. Sylfaen y cynllun yw dod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi pobl, gyda chynlluniau ar gyfer canolfannau iechyd a gofal integredig lluosog, wedi ei gynllunio gan gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro*

Mae ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o strategaeth y bwrdd iechyd i allu ail-ddarparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, drwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddai hyn yn gwella a chynyddu’r gwsanaethau gofal arbenigol y gellir ei ddarparu ac yn mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog, gan gynnwys hen ysbytai, problemau o ran cynnal rotâu meddygol dros sawl ysbyty, a recriwtio staff.

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw (dydd Iau 04 Awst 2022), clywodd y Bwrdd fod y broses hyd yn hyn ar gyfer arfarnu safleoedd ysbyty newydd posibl, o fewn y parth* y cytunwyd arno yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2018, wedi derbyn cydnabyddiaeth arfer gorau gan y corff annibynnol, y Sefydliad Ymgynghori.

Roedd cytundeb unfrydol bod angen rhagor o ymgynghori cyhoeddus, yn enwedig er mwyn clywed lleisiau staff nas clywir yn aml, gan gynnwys y rheini yn y gymuned a gwasanaethau gofal sylfaenol.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r manylion a ddarparwyd trwy’r broses arfarnu tir fanwl hyd yma, penderfynodd y Bwrdd fynd â thri o’r pum safle a ystyriwyd yn flaenorol, drwodd i ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae safleoedd na fyddant yn cael eu datblygu yn cynnwys un o ddau yn Sanclêr (safle J), roedd hyn oherwydd iddo gael y sgôr risg uchaf yn seiliedig ar nodweddion y safle ac roedd, oherwydd iddo gael sgôr sylweddol is na safleoedd eraill yn yr arfarniad technegol, a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth fwyafrifol o’r cyhoedd ac a ddefnyddiodd broses sgorio wedi’i phwysoli yn unol â’r hyn sydd bwysicaf i’n cymunedau.

Y safle arall na chafodd ei ddatblygu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus oedd safle Arberth. Roedd hyn oherwydd pryderon gwerthusiad clinigol y byddai safle ymhellach i’r gorllewin yn arwain at ostyngiad yn nifer y genedigaethau, derbyniadau newyddenedigol a derbyniadau pediatrig acíwt, lleihau’r màs critigol ar gyfer gwasanaethau diogel a chynaliadwy, a chael effaith negyddol ar ddenu staff clinigol a chynnal statws hyfforddai i feddygon, nyrsys a bydwragedd. Mewn perthynas â throsglwyddiadau amser critigol, er enghraifft gofal dwys newyddenedigol, a chardiaidd, mae’r rhain i gyd yn mynd i’r dwyrain a byddai ysbyty yn Arberth yn arwain at amseroedd trosglwyddo hirach.

Wrth grynhoi’r cyfarfod, dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae ein hachos busnes rhaglen i Lywodraeth Cymru yn ceisio’r buddsoddiad mwyaf y bydd gorllewin Cymru wedi’i weld erioed, ac mae’n adeiladu ar sylfaen ein haddewid i ddod â chymaint o ofal ag sy’n bosibl yn nes at gartrefi pobl drwy ganolfannau gofal integredig mewn llawer o drefi ar draws gorllewin Cymru.

Rydym wedi gwrando ac yn parhau i wrando ar ofnau a lleisiau’r cyhoedd a wasanaethwn a’n staff sy’n deall yr heriau rheng flaen o ddarparu gwasanaethau ar draws cymaint o safleoedd ac wedi’u lledaenu mor denau. Rydym fel Bwrdd yn addo parhau i wrando ac ystyried y safbwyntiau hynny ar bob cam. Gan gydnabod pa mor fregus yw ein gwasanaethau a’r risg y mae hyn yn ei wynebu bob dydd, nid ydym yn bwriadu gwneud newidiadau yn Ysbyty Glangwili nac Ysbyty Llwynhelyg cyn adeiladu ysbyty newydd. Ac wedi hynny, byddant yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd gwerthfawr i’n cymunedau.”

Bydd y bwrdd iechyd nawr yn gweithio’n agos gyda Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ddatblygu cynllun ymgynghori i glywed barn pobl am y tri safle sy’n weddill, un yn Sanclêr, a dau yn Hendy-gwyn ar Daf.

I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd, ac achos busnes y rhaglen, ewch i wefan  y bwrdd Iechyd ble gallwch weld dogfennau, adnoddau a cwestiynau cyffredin.

Hoffai’r bwrdd iechyd hefyd atgoffa pobl fod dal amser ganddynt i roi eu barn am gynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Llesiant Integredig Abergwaun yn Sir Benfro drwy’r wefan Dweud Eich Dweud, sydd ar gael yma.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page